YMDDIHEURIADAU
Cyng. John Richards, Ann Jones, Margaret Roberts
PRESENNOL
Cyng. Lisa Birks (Cadeirydd), Dewi Tudur Lewis (Is-Gadeirydd), Eluned Williams, Ffion Williams, Eifion Williams, Owen Lloyd Roberts, Sian Mai Ephraim a Cyng.. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd l).
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Chwefror 17eg 2025 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Adroddodd y Clerc bod rhai camgymeriadau yn cofnodion y cyfarfod diwethaf sef – bod treth ar gyflog y Clerc i fod yn £462 a ddim £420, ‘roedd torri gwair y mynwentydd i fod yn £2,500 a ddim £2,000, ag ‘roedd angen ychwanegu datblygu safle y lloches bws £15,000. ‘Roedd rhain erbyn hyn wedi cael eu cynnwys yn copi swyddogol o’r cofnodion.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £13,216.61 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £11,044.39 yn llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn
Tir ger Bron Trefor
Cafwyd wybod gan y Clerc ei bod wedi cael sgwrs gyda Mr. Aled Lloyd, Parc Cenedlaethol Eryri ynglyn ar datblygiad uchod ag ei bod wedi printio y ffurflenni angenrheidiol. Adroddodd y Cadeirydd bod angen ymchwilio ymhellach I’r mater hwn a cytunwyd ei drafod ymhellach yn y cyfarfod mis nesa.
Symud y Gofeb yn Llandecwyn
Cytunwyd bod angen edrych ar y Cofrestr Tir er mwyn gweld pwy oedd yn berchen y tir o amgylch y Gofeb cyn trafod ymhellach ynglyn a’I symund.
Archwiliad y maes parcio ar cae chwarae
Adroddodd y Cyng. Dewi Tudur Lewis bod ef ar Cadeirydd wedi ymweld ar safle uchod ag ‘roedd wedi anfon rhai lluniau ymlaen I’r Aelodau. Cytunwyd gofyn I gwmni Hochtief a fyddai yn bosib iddynt gario allan archwiliad o’r safle a cytunodd y Cadeirydd gysylltu a hwy.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi cael gwybod bydd Cyngor Gwynedd yn ail wynebu y darn ffordd ger Stabl Mail yn fuan ag hefyd yn trwsio y ffens diogelwch ag yn monitor y sefyllfa, byddant yn ail wynebu o Maes Gwndwn, Soar at Bron Wylfa am bod y ffordd wedi disgyn ag yn ail wynebu cornel Llandecwyn i Felinrhyd Fach, Maentwrog am bod y ffordd wedi cracio ag wedi disgyn.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi cael cyfarfod gyda’r Rheolwr Priffyrdd a bod cwmni Spem yn mynd I dyllu y ffordd rhwng Llandecwyn a Maentwrog, ‘roedd angen cynnal cyfarfod rhwng ef ar Cyng. Dewi Tudur Lewis ynglyn a parcio ar y rhiw. Roedd materion cyllidol Cyngor Gwynedd yn fregus iawn am ei fod yr isaf ond un setliad o’r gwaelod yn Gymru a bod Aelodau y Cabinet wedi cytuno awgrym byddai treth y Cyngor yn codi tua 8.6 %.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Rhyddhau Amodau 3 (Cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP)) a 4 (Manyleb fanwl neu samplau o ddeunyddiau) ynghlwm wrth Ganiatâd Adeilad Rhestredig NP5/77/LB330 dyddiedig 06/02/2024 Llenyrch, Talsarnau (NP5/77/LB330A)
Cytunodd yr Aelodau eu bod ddim yn hapus i’r Amodau hyn gael eu rhyddhau am eu bod wedi cael eu cytuno yn wreiddiol.
Cadw pwmp gwres ffynhonnell aer sydd wedi'i leoli yng nghefn yr eiddo 6 Cilfor, Llandecwyn (NP5/77/360)
Cefnogi y cais hwn
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £9,135.72 yn y cyfrif rhedegol, a £17,721.86 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Mr. M. J. Kerr - £490.00 - agor bedd y diweddar Mrs Iona Lloyd Aubery
Mr. M. J. Kerr - £100.00 - agor bedd y diweddar Mrs Glenys Iona Jones (llwch)
Mr. M. J. Kerr - £490.00 - agor bedd y diweddar Mrs Margaret Thomas
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Sian Ephraim a wnaeth y Cyng. Lisa Birks gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Chwefror)
GOHEBIAETH
Un Llais Cymru
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynghyd a holiadur ynglyn a phwyllgorau ardal ag yn gofyn i’r Cyngor ei gwblhau erbyn yr 28ain o’r mis hwn. Cytunwyd bod y Clerc yn cwblhau yr holiadur hwn ar ran Cyngor.
Un Llais Cymru
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod cyfarfod cyffredinol blynyddol Un Llais Cymru yn cael ei gynnal ar lein dydd Mawrth yr 11eg o Fawrth rhwng 4.00 a 6.00 o’r gloch.
Sian Gwenllian AS
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor yn datblygu Ysgol Deintyddol ym Mangor ag i anfon llythyr at Jeremy Miles AS yn datgan eu cefnogaeth. Cytunwyd i gefnogi y datblygiad hwn.
UNRHYW FATER ARALL
Eisiau gwybod beth oedd y sefyllfa diweddaraf ynglyn a Ffridd Rasus a darllenodd y Cyng. Gwynfor Owen e-bost yr oedd wedi ei dderbyn yn dilyn ei ymweliad ar safle.
Datganwyd pryder bod deunydd plastic ddim wedi ei glerio o’r goedwig gerllaw Ffridd Rasus.
Datganwyd pryder bod llanast wedi cael ei wneud yn mynwent Llanfihangel y Traethau yn ddiweddar ag adroddodd y Clerc ei bod wedi siarad gyda’r Ymgymerwyr ynglyn ar mater hwn.
Eisiau gofyn i Tim Tacluso Ardal Ni dacluso y lloches bws yn Llandecwyn.
Datganwyd pryder bod mwy o gabanau wedi cael eu codi yn y goedwig ger Maesyneuadd a dywedodd y Clerc y byddai yn cysylltu gyda’r Parc Cenedlaethol ynglyn a hyn.
Datganwyd pryder bod ddim signal ffon symudol yn Glan y Wern a dywedodd y Cyng. Gwynfor Owen y byddai yn cysylltu gyda Lis Saville Roberts a Mabon Ap Gwynfor ynglyn a hyn.