Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Talsarnau - 17/3/25

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Talsarnau - 17/3/25

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Sian Mai Ephraim a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

PRESENNOL

Cyng. Dewi Tudur Lewis (Is-Gadeirydd), John Richards, Eluned Williams, Ffion Williams, Ann Jones, Eifion Williams, Owen Lloyd Roberts, Margaret Roberts, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)

a'r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)

DATGAN BUDDIANT

Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Chwefror 17eg 2025 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Cafwyd wybod gan y Clerc ei bod wedi cael trafodaeth gyda Swyddog o’r Parc Cenedlaethol ynglyn ar cabanau yn coedwig Maes y Neuadd ag hefyd ynglyn a Stabl Mail. Hefyd cafwyd wybod gan y Clerc bod y Tim Tacluso wedi bod yn glanhau y lloches bws yn Llandecwyn ag hefyd yr un yn Glan y Wern.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £13,216.61 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £11,044.39 yn llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn

Tir ger Bron Trefor

Cafwyd wybod gan y Cyng. John Richards ei fod wedi cyfarfod gyda Mr. Harri Pugh ynglyn ar mater uchod ag ei fod wedi rhoid pris iddo oedd yn cynnwys gwneud y gwaith a pryniant y tir. Cytunwyd bod angen edrych ar gyflwr y lloches bws cyn gwneud penderfyniad I’w gymeryd ag hefyd bod angen cael pris y tir ag am gario allan y gwaith arwahan.

Symud y Gofeb yn Llandecwyn

Cytunwyd i beidio a trafod y mater hwn ymhellach

Archwiliad y maes parcio ar cae chwarae

Cytunwyd i beidio a trafod y mater hwn ymhellach

c) Agor Tenderau Torri Gwair

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn un tender ynglyn a cario allan y gwaith uchod gan Mr. Meirion Griffith, Islwyn, Talsarnau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus a un dorri gwair mynwentydd Llanfihangel y Traethau a Llandecwyn. Cytunwyd i dderbyn tender Mr. Meirion Griffith.

Adolygu Cyflog y Clerc

Roedd y Cyngor yn eu cyfarfod mis Mawrth 2021 wedi cytuno i adolygu cyflog y Clerc yn flynyddol ag felly cytunwyd codi cyflog y Clerc i £2,379 y flwyddyn a chadw y costau ar £1,500 ag ychwanegu y costau swyddfa i £500. Nid oedd y Clerc yn bresennol pan drafodwyd y mater hwn. Nid oedd y Clerc yn bresennol pan drafodwyd y mater hwn

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi bod mewn cyfarfod gyda’r Heddlu yn Bermo ar y 7ed o’r mis hwn a bod cyflwyniad wedi ei gael gan Swyddog Gan Bwyll ag yn egluro nid oedd yn gallu dod i’r ardal gyda’r cerbyd Gan Bwyll oherwydd bod ddim archwiliad traffic heb gael ei gario allan ers pan mae yr 20 m.y.a wedi dod i rym. Mae yn gobeithio bydd yr archwiliad hwn yn cael ei gario allan yn fuan ag wedyn byddai yn gallu dod yn nol i’r ardal. Hefyd carwyd wybod bod yn bosib adrodd am broblemau baw cwn i’r Swyddog Gorfodaeth a’r app Gwynedd. Cafwyd wybod gan yr Heddlu bod mwy o ymddygiadau gwrthgymdeithasol wedi bod yn ystod y flwyddyn diwethaf rhwng Harlech a Bermo ag hefyd bod yr achosion o droseddau yn yr ardal wedi codi yn ystod y flwyddyn diwethaf. Bydd Panad hefo’r Heddlu yn cael ei gynnal yn yr Hen Lyfrgell, Harlech rhwng 10.00 y bore ag 12.00 dydd Gwener yr 21ain o’r mis hwn a mae’n bosib taro i mewn i’w gweld ag hefyd ‘roedd wedi gofyn i’r Heddlu a fyddai yn bosib iddynt fod yn bresennol mwy aml yn y pentre.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Dymchwel sied a phorth presennol, addasu garej ddwbl ynghlwm yn ystafelloedd byw ynghyd ag estyniad unllawr a phorth blaen 4 Maes Mihangel, Ynys, Talsarnau (NP5/77/355)

Cefnogi y cais hwn oherwydd byddai hyn yn gwella ansawdd bywyd y teulu ifanc sydd yn byw yna.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £10,233.72 yn y cyfrif rhedegol, a £17,721.86 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

Cyllid a Thollad £115.60 - treth ar gyflog y Clerc

Mrs Annwen Hughes - £1,470.50 – cyflog a chostau 6 mis

Mr. Meirion Griffiths - £200.00 - cynnal a chadw Gardd y Rhiw

Ceisiadau am gymorth ariannol

Neuadd Bentref Talsarnau - £2,000

CFFI Meirionnydd - dim ond cytunwyd cyfranu i gais y clwb lleol

CFFI Ardudwy - £250

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Lisa Birks a wnaeth y Cyng. Margaret Roberts gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf

Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Mawrth)

Pritchard a Griffiths - £945 - claddu y diweddar Mrs Iona Lloyd Aubery

Pritchard a Griffiths - £247 - claddu y diweddar Mrs Gleynys Iona Jones (llwch)

Pritchard a Griffiths - £945 - claddu y diweddar Mrs Margaret Roberts

Adroddodd y Trysorydd ymhellach ei bod wedi gofyn i Ms Luned Fon Jones o Adran Cyllid, Cyngor Gwynedd a fyddai yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni ag ei bod wedi cytuno i hyn.

GOHEBIAETH

Ms Fiona Roberts

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn am ganiatad y Cyngor i osod mainc yn Llandecwyn er cof am ei Thad Mr. Eric Roberts. Cytunwyd rhoid caniatad i osod sedd yn lle yr un sydd gan y Cyngor yna yn barod ag hefyd awgrymu ei bod yn archebu sedd sydd wedi cael ei gwneud allan o ddeunydd ail gylchu.

Parc Cenedlaethol Eryri

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynghyd a nodyn cyfarwyddyd Eryri ar y system gynllunio ag yn gofyn i’r Cyngor gymeryd sylw ohono pan yn trafod ceisiadau cynllunio. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen yn barod i bob Aelod.

Parc Cenedlaethol Eryri

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod y Gorchymyn Gwarchod Coed Dros Dro Coed Penmaen bellach mewn grym yn barhaol.

Heddlu Gogledd Cymru

Wedi derbyn e-bost gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru (CHTh), ynghyd a chopi o Gynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru er gwybodaeth I’r Cyngor. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen yn barod i bob Aelod.

CFFI Meirionnydd

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn am gyfraniad ariannol gan y Cyngor. Cytunwyd i beidio a rhoid cyfraniad ariannol iddynt ond cefnogi y clwb lleol.

CFFI Ardudwy

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn am gyfraniad ariannol gan y Cyngor. Cytunwyd cyfranu £250 iddynt.

UNRHYW FATER ARALL

Datganwyd pryder yn dilyn y ddamwain ar ffordd Barcdy yn ddiweddar bod ddim rhwystr mewn lle i stopio ceir rhag mynd i’r ffos gerllaw.

Datganwyd pryder bod gor-yrru yn cae ei wneud drwy Llandecwyn a cytunodd y Cyng. John Richards gael golwg ar y camerau CCTV. .

Cafwyd wybod bod diwrnod galw heibio yn Plas Tan y Bwlch ar yr 20ed o’r mis hwn. .

Rhoddwyd caniatad i’r Cadeirydd siarad hefo Creative Play ynlgyn a’r mynediad i’r cae chwarae

 

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg