YMDDIHEURIADAU
Cyng. Ffion Williams, Margaret Roberts, a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
PRESENNOL
Cyng. Lisa Birks (Cadeirydd), Dewi Tudur Lewis (Is-Gadeirydd), John Richards, Eluned Williams, Sian Mai Ephraim,, Eifion Williams, Owen Lloyd Roberts, Ann Jones, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Tachwedd 18ed 2024 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Eisiau cynnwys symund Y Gofeb yn Llandecwyn ar agenda y cyfarfod nesa.
Eisiau cynnwys archwilio y maes parcio a cae chwarae ar agenda y cyfarfod nesa.
Eisiau cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a diffyg llinellau gwyn ar ganol y ffordd ger Cei Newydd a gofyn iddynt gario allan arolwg o’r craciau yn y ffordd gyferbyn a gwaith y Grid Cenedlaethol.
MATERION YN CODI
Panel Cyfrifiad Annibynnol
Adroddodd y Clerc bod yn rhaid arwyddo ffurflen gan bob Cynghorydd ynglyn ar uchod eto eleni. Mae angen rhestru bob rheol sydd yn cael ei mabwysiadu yn cofnodion y Cyngor ag os bydd rheol taliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr sydd DDIM am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu y rheol taliadau ar gyfer costau eto eleni a cytunwyd bod pawb oedd eisiau hawlio costau yn gwneud hynny ond ei fod yn bwysig bod pawb yn ei anfon yn nol i’r Clerc ar ol ei cwblhau. O’r Aelodau oedd yn bresennol penderfynnodd 6 Cynghorydd i dderbyn yr lwfans a penderfynnodd 2 Gynghorydd i beidio a derbyn y lwfans,
Cynllun Cyllideb
Dosbarthwyd copiau o’r uchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud i fyny hyd at y 31ain o Ragfyr 2024 ers dechrau Ebrill 2024 a beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y cynllun cyllideb hyd at diwedd mis Rhagfyr i bob aelod oedd yn bresennol. Adroddwyd bod £11,804.01 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £9,672.99 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Aeth yr aelodau drwy y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud a beth oedd i lawr ar y cynllun cyllideb fesul un. Cytunwyd i dderbyn yr uchod.
Polisi Asesiad Risg Ariannol y Cyngor a Chofrestr Asedau
Dosbarthwyd copiau o’r uchod i bob aelod a oedd yn bresennol a gafodd bob eitem a oedd arnynt eu trafod arwahan. Penderfynwyd derbyn y polisiau hyn.
Prosiectau y Cyngor 2025/26
Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoid yr uchod ar yr agenda er mwyn cael rhyw syniad o brosiectau a fyddai angen sylw yn ystod y flwyddyn ariannol newydd ag hefyd er mwyn cynnwys amcangyfrif o’r gost yn y gyllideb. Cytunwyd gosod tybiau blodau o amgylch y pentrefi.
Cyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2025/26
Dosbarthodd y Trysorydd gopiau o gyfrifon y Cyngor i fyny at y 31ain o Ragfyr 2024 i bob aelod er mwyn iddynt gael gweld beth oedd y sefyllfa ariannol. Fe gafwyd trafodaeth ynlgyn ar mater uchod a penderfynwyd fod amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa
Hyn yn gwneud cyfanswm o £39,000
Wedi rhagweld byddai £4,580 yn amcangyfrif o incwm am y flwyddyn ariannol 2025/26 a £22,190 yn amcangyfrif faint fyddai yn y banc diwedd Mawrth yn gwneud cyfanswm o £26,770 i godi y precept o £22,000 i £34,000 i wneud yn siwr bod y Cyngor ddim yn mynd i drafferthion ariannol ag i gyfarch y gyllideb oedd wedi cael ei gosod.
Precept y Cyngor am y flwyddyn 2025/26
Fe dderbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod. Ar ol trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd codi y precept o £22,000 i £34,000
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £9,278.05 yn y banc, £17,721.86 yn y cyfrif wrth gefn.
Anfonebau angen eu talu ers y cyfarfod diwethaf
Cyllid a Thollad £115.60 - treth cyflog y Clerc
Archwilio Cymru - £200.00 – archwiliad allanol 2023/24
Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Rhagfyr)
Cyngor Gwynedd - £479.95 – ad-daliad am dorri gwair y llwybrau cyhoeddus
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Ionawr)
Cyllid a Thollad £156.27 - ad-daliad TAW
Anfonebau angen eu talu ers y cyfarfod diwethaf
Play Quest - £360 - archwilaid cae chware
‘Roedd yr archwiliad hwn wedi ei gario allan ar ol cyfarfod diwethaf y Cyngor ag oedd angen talu yr anfoneb erbyn yr 11eg o mis diwethaf. Ar ol cysylltu gyda’r Aelodau cytunwyd i’w dalu ag fe gafodd hyn ei wneud ar yr 20ed o Ragfyr.
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Lisa Birks a wnaeth y Cyng. Eluned Williams gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi derbyn yr Archwiliad Allanol yn nol a bod ddim materion o bwys wedi cael ei ddatgan arno.
MATERION A DRAFODWYD AR OL Y PWYLLGOR CYLLID
CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.
GOHEBIAETH
Llywodraeth Cymru
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor mae y swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2024/25 fydd £11.10 yr etholwr. Adroddodd y Clerc y rhif o diweddaraf o etholwyr sydd genni yw 441 ag felly mae gan y Cyngor hawl i gyfranu hyd at £4895.10 i gyrff allanol.
Swyddfa Bost
Wedi derbyn e-bost gan Rheolwr Materion Allanol yr uchod yn gofyn a fyddai modd i’r Cyngor feddwl am le addas i’r fan post symudol barcio yn y pentre oherwydd ni fyddai y gwasanaeth post yn cael ei gynnal yn y neuadd bellach. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod a oedd wedi awgrymu tu allan y neuadd fel safle ag ‘roedd y Clerc wedi anfon at y Rheolwr Materion Allanol yn datgan hyn ag ‘roedd wedi derbyn ateb ganddi yn datgan bod hyn yn syniad da a byddai yn dilyn yr awgrym hwn i fyny.
Oherwydd na ddim ond materion ariannol oedd yn cael eu trafod yn y cyfarfod hwn i gynnal cyfarfod arall o’r Cyngor ar y 19eg o fis nesa am 7.30 o’r gloch yn y neuadd.
Bottom of Form