YMDDIHEURIADAU
Cyng. Margaret Roberts, Ann Jones Ffion Williams.
PRESENNOL
Cyng. Lisa Birks (Cadeirydd), Dewi Tudur Lewis (Is-Gadeirydd), Eluned Williams, John Richards, Eifion Williams, Owen Lloyd Roberts, Sian Mai Ephraim a Cyng.. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd l).
Croesawyd Heledd Parri a Chloe Tudor Jones Hwyluswyr Tai Gwledig i’r cyfarfod i drafod anghenion tai yr ardal. Cafwyd wybod eu bod yn gweithredu gydag ac ar ran cymunedau a phartneriaid sy'n datblygu tai fforddiadwy ar gyfer bobl leol i ymateb i brinder tai fforddiadwy mewn nifer ardaloedd gwledig ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Mae yna naw partner sy'n cefnogi'r gwaith yng Ngogledd Orllewin Cymru, a hynny o fewn siroedd Gwynedd, Môn a Conwy. Hefyd maen’t yn adnabod anghenion tai lleol er mwyn sicrhau cyflenwad o dai fforddiadwy i bobl leol mewn ardaloedd gwledig yw sylfaen y gwaith. Mae’r gwaith yn cael ei gwblhau mewn partneriaeth â'r gymuned leol a partneriaid y cynllun. Gwneir hyn drwy archwilio data a thrwy ddefnyddio amrywiol dechnegau ymgynghori gan gynnwys holiaduron a diwrnodau agored a byddant yn cynnal prynhawn a bydd cwmni Tai Teg a Parc Cenedlaethol Eryri yn bresennol yn y prynhawn agored er mwyn casglu barn bobl lleol. Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi comisiynu’r gwasanaeth Hwyluswyr Tai Gwledig i greu adroddiad anghenion tai ar gyfer Talsarnau, i weld beth yw’r angen cyffredinol yn yr ardal.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Medi 15ed 2025 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Nid oedd unrhyw fater yn codi o'r cofnodion
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £9,956.03 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £19,846.97 yn llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn..
Tir ger Bron Trefor
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn ateb gan bysiau Lloyds ynglyn ar mater hwn ag eu bod yn datgan na ddim eu cyfrifoldeb nhw yw hyn ag ei bod wedi cysylltu gyda yr Adran Drafnidiaeth ag eu bod wedi datgan bod ddim asesiad risg o’r safle wedi cael ei gario allan ag hefyd yn datgan eu bod o’r farn fod lled y pafin ddim yn ddigonol ar gyfer lloches ond y byddant yn gallu gosod postyn a fflag yna. Penderfynwyd gofyn I berchennog tir arall a fyddai’n bosib rhoid lloches bws yn y safle honno a cytunodd y Cyng. Gwynfor Owen ofyn iddynt.
Parc Chwarae
Adroddodd y Clerc ei bod wedi dosbarthu y llythyr yn hysbysebu’r gwaith sydd yn mynd I gael ei gario allan yn y safle uchod I dai yn yr ardal ag hefyd datganodd bod y bin ysbwriel wedi cael eu gosod ar y safle. Cafwyd wybod bod y gwaith wedi cael ei gychwyn heddiw.
Ail Leoli Meinciau
Adroddodd y Cadeirydd bod y ddwy fainc oedd wedi eu gosod ger groesffordd Cilfor angen cael eu ail leoli oherwydd bod rhai newydd wedi cael eu gosod ger y groesffordd ag hefyd cafwyd wybod bod cwmni Hochief wedi cytuno i gario allan y gwaith sydd ei angen ar y ddwy fainc a’i gosod mewn safleoedd eraill. Ar ol trafodaeth cytunwyd gosod un fainc ger Cynefin, Llandecwyn ar llall ar rhiw Bryn Eithin, Llandecwyn.
Cais i unigolion gwirfoddoli a creu 'grwp cyfeillion Talsarnau' fel pwyllgor i allu ceisio am grantiau i'r Ysgol ayyb
Fe drafodwyd y mater uchod ond cytunwyd bod y Cyngor ddim yn gallu gwneud ddim byd a cytunwyd I’r mater gael ei godi eto mewn cyfarfod o’r Corff Llywodraethwyr.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi derbyn e-bost gan etholwr yn gofyn a fyddai modd cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd i ofyn iddynt glerio y ffos ddraenio sydd ar hyd ochor y ffordd rhwng Rhosigor a Gefail y Cwm oherwydd bod yr afon yn gorlifo. ‘Roedd wedi anfon y cais hwn ymlaen i’r Adran Priffyrdd a wedi cael gwybod bod angen i’r afon gael ei glanhau allan a dyna’r rheswm pam ei bod yn gorlifo ag eu bod yn ymwybodol am y sefyllfa hyn ac wedi bod yn llythyru gyda asiant y tirfeddiannwr a mae llythyr wedi ei anfon yn hysbysu fod Deddf Draenio Tir 1991, Adran 25 yn eu caniatáu i orfodi, fodd bynnag, ar hyn o bryd maen’t yn gofyn am ei gydweithrediad wrth gymryd a chynnal a chadw angenrheidiol i adfer y cwrs dwr i gyflwr gweithio da ac atal y dwr rhag gorlifo i’r briffordd. Byddai camau gweithredu addas yn yr achos hyn yn cynnwys cael gwared a silt a llystyfiant o wely’r sianel cwrs dwr ar y tir. Maen’t wedi rhoi amserlen teg hyd at y 1af o Ragfyr i gario allan y gwaith, yna fydd dim dewis ond ystyried camau ffurfiol a all olygu hysbysiad cyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwaith cael ei gwblhau. ‘Roedd wedi mynychu y cyfarfod Strategol Ariannol a gafodd ei gynnal ar yr 22ain o fis diwethaf a nid yw y sefyllf ariannol yn edrych yn dda yn Gwynedd ag hwyrach bydd yn rhaid codi treth y Cyngor 13% ond bydd syniad gwell gan y Cyngor ar ol i’r setliad ariannol gael ei dderbyn. Bydd cyfarfod arall o’r sesiwn briffio cynllun ariannol tymor canolig yn cael ei gynnal ar y 10ed o fis nesa, ond yn anffodus nid oedd yn gallu mynychu y cyfarfod hwn oherwydd bod cyfarfod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol yr un diwrnod.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod y tren hwyr yn cario ymlaen ar lein y Cambrian trwy’r gaeaf ag yn annog pawb I’w ddefnyddio, ‘roedd yr adroddiad CPR wedi cael ei rhyddhau a nid oedd yn edrych yn dda ar Gyngor Gwynedd a nid yw yn adroddiad pleserus I’w darllen
CEISIADAU CYNLLUNIO
Gwaith atgyweirio ac adnewyddu, gan gynnwys disodli to dalen rhychog gyda llechi, yn dilyn difrod tân helaeth Tyddyn Siôn Wyn, Talsarnau (NP5/77/LB67)
Cefnogi y cais hwn
Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith atgyweirio ac adnewyddu, gan gynnwys disodli to dalen rhychog gyda llechi, yn dilyn difrod tân helaeth Tyddyn Siôn Wyn, Talsarnau (NP5/77/LB67A)
Cefnogi y cais hwn
Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith atgyweirio ac adnewyddu, gan gynnwys disodli to dalen rhychog gyda llechi, yn dilyn difrod tân helaeth Tyddyn Siôn Wyn, Talsarnau (NP5/77/LB67B)
Cefnogi y cais hwn
Gwaith atgyweirio ac adnewyddu, gan gynnwys disodli to dalen rhychiog gyda tho dalen tun du, yn dilyn difrod tân helaeth Tyddyn Siôn Wyn, Talsarnau (NP5/77/LB67C)
Cefnogi y cais hwn
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £20,877.19 yn y cyfrif rhedegol, a £27,996.73 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Mr. Meirion Griffiths - £230.00 - torri gwair mynwent Llanfihangel y Traethau
Mr. Meirion Griffiths - £210.00 - torri gwair mynwent Llandecwyn
Mr. Meirion Griffiths - £375.00 - torri gwair llwybrau cyhoeddus
Mr. Wayne Farrell -£1,620.00 - archebu nwyddau ar gyfer gwaith prosiect adfywio yn Cilfor
Y Lleng Prydeinig - £40.00 - 2 dorchen pabi coch
Cytunwyd i dalu anfoneb Creative Play am y gwaith yn y cae chwarae unwaith fydd wedi ei derbyn a bod y Clerc yn anfon at bob Aelod yn gyntaf.
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Eifion Williams a wnaeth y Cyng. Owen Lloyd Roberts gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Hydref)
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Tachwedd)
GOHEBIAETH
Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynglyn ar diweddariad ar y broses adolygu Cynllun Datblygu Lleol Eryri ag yn gofyn a fyddai modd i holiadur anffurfiol gael ei gwblhau gan trigolion y Parc er mwyn iddynt cael clywed barn y bobl lleol ar faterion polisi cynlllunio allweddol yn yr ardal. Mae dyddiad cau ar gyfer cwblhau yr holiadur ar y 12ed o Ragfyr. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen yn barod i bob Aelod.
Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Wedi derbyn e-bost gan Aelod Cabinet yr Adran uchod yn gofyn i’r Cyngor a fyddai yn bosib iddynt gymeryd rhan yn yr ymgynghoriad ynglyn ar arolwg ar Strategaeth Wastraff Cyngor Gwynedd drwy lenwi yr holiadur erbyn y 30ain o’r mis hwn. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen yn barod i bob Aelod.
Un Llais Cymru
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod cyfarfod cyffrediniol blynyddol Un Llais Cymru yn cael ei gynnal yn rhithiol ar yr 21ain o Ionawr 2026 a bod yna wahoddiad i un Cynghorydd yn unig i fynychu y cyfarfod. Maen’t hefyd yn gofyn am enw y sawl fydd yn mynychu gyda enw eilydd erbyn y 18ed o Ragfyr. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen yn barod i bob Aelod. Cytunodd y Cyng. Lisa Birks fynychu y cyfarfod hwn ar ran y Cyngor.
Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn ateb gan Swyddog o’r Parc ynglyn ar cabannau ar dir uwchben Maes y Neuadd ag yn datgan y byddai mewn cysylltiad gyda diweddariad yn fuan. Datganwyd siom bod ddim mwy o wybodaeth wedi cael ei dderbyn a cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda’r Parc unwaith yn rhagor.
Pwyllgor Neuadd Bentref
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn a fyddai y Cyngor yn cysidro cymeryd drosodd y cyfrifoldeb o’r pedwar diffibrilwyr sydd yn yr ardal. Cytunwyd bod ddim problem hefo hyn mewn egwyddor a cytunodd y Cyng. Dewi Tudur Lewis wneud ymholiadau pellach.
Betsan Emlyn
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn am gyfraniad ariannol i alluogi i brynu coeden nadolig i’r pentref. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod a cytunwyd yn anffodus er siom i’r Aelodau bod y Cyngor ddim yn gallu rhoid cyfraniad ariannol i unigolyn oherwydd y rheolau ariannol. Cytnuwyd bod angen i’r Cyngor wneud rhywbeth gyda’r mater hwn erbyn nadolig flwyddyn nesa.
UNRHYW FATER ARALL
Datganwyd pryder bod y gwaith byth wedi cael ei gario allan ger Bont y Glyn.
Datganwyd pryder bod rhai yn mynd a’i cwn i Gardd y Rhiw a cytunwyd gofyn am arwydd i’w osod yna. Datganwyd pryder bod y mater o osod llinellau melyn dwbwl ar rhiw Soar byth wedi cael ei ddatrys. Datganwyd pryder am or-yrru yn Llandecwyn. Cafwyd wybod bod angen adnewyddu y camerau ANPR yn Llandecwyn ag hefyd datganwyd siom bod llinell i gamerau Maentwrog wedi cael ei thori. Cytunodd y Cyng. John Richards ddelio gyda’r mater hwn a cytunwyd bod angen cario ymlaen i wneud y gwaith angenrheidiol ar y camerau. Datganwyd pryder bod cyflwr ffordd Cei Newydd byth wedi ei sortio a cytunwyd cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd unwaith yn rhagor. Datganwyd pryder bod gwaith mae cwmni Opus yn ei gario allan yn cymeryd amser a cytunodd y Cyng. Lisa Birks wneud ymholiadau ynglyn a hyn. Datganodd y Clerc mae cyfarfod ariannol o’r Cyngor yn unig fydd yn cael ei gynnal mis Ionawr.
Datganodd y Clerc mae cyfarfod ariannol o’r Cyngor yn unig fydd yn cael ei gynnal mis Ionawr.