YMDDIHEURIADAU
Cyng. Dewi Tudur Lewis (Is-Gadeirydd), Sian Mai Ephraim,, Ann Jones, a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
PRESENNOL
Cyng. Lisa Birks (Cadeirydd), Eluned Williams, Ffion Williams, Margaret Roberts, Eifion Williams, Owen Lloyd Roberts, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Tachwedd 17eg 2025 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Nid oedd unrhyw fater yn codi o'r cofnodion
MATERION YN CODI
Hysbysfwrdd Cilfor
Cafwyd wybod bod yr hen hysbysfwrdd wedi chwalu ag oherwydd nid oedd posib i’w drwsio penderfynwyd i archebu un newydd wedi ei wneud allan o ddeunydd ail gylchu a chytunodd y Cadeirydd ar Clerc ddelio gyda’r mater hwn.
Panel Cyfrifiad Annibynnol
Adroddodd y Clerc bod yn rhaid arwyddo ffurflen gan bob Cynghorydd ynglyn ar uchod eto eleni. Mae angen rhestru bob rheol sydd yn cael ei mabwysiadu yn cofnodion y Cyngor ag os bydd rheol taliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr sydd DDIM am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu y rheol taliadau ar gyfer costau eto eleni a cytunwyd bod pawb oedd eisiau hawlio costau yn gwneud hynny ond ei fod yn bwysig bod pawb yn ei anfon yn nol i’r Clerc ar ol ei cwblhau. O’r Aelodau oedd yn bresennol penderfynnodd 1 Cynghorydd i dderbyn yr lwfans a penderfynnodd 5 Gynghorydd i beidio a derbyn y lwfans,
Cynllun Cyllideb
Dosbarthwyd copiau o’r uchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud i fyny hyd at y 31ain o Ragfyr 2025 ers dechrau Ebrill 2025 a beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y cynllun cyllideb hyd at diwedd mis Rhagfyr i bob aelod oedd yn bresennol. Adroddwyd bod £19,765.03 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £19,234.97 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Aeth yr aelodau drwy y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud a beth oedd i lawr ar y cynllun cyllideb fesul un. Cytunwyd i dderbyn yr uchod.
Polisi Asesiad Risg Ariannol y Cyngor
Dosbarthwyd copiau o’r uchod i bob aelod a oedd yn bresennol a gafodd bob eitem a oedd arnynt eu trafod arwahan. Penderfynwyd derbyn y polisiau hyn.
Adolygu Cyflog y Clerc am y flwyddyn 2026/27
Roedd y Cyngor yn eu cyfarfod mis Mawrth 2025 wedi cytuno i adolygu cyflog y Clerc o hyn ymlaen yn eu cyfarfod yn mis Ionawr yn flynyddol ag felly eleni cytunwyd codi cyflog y Clerc i £2,474 y flwyddyn a chadw y costau ar £1,500 ag ychwanegu y costau swyddfa i £500. Nid oedd y Clerc yn bresennol pan drafodwyd y mater hwn.
Cyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2026/27
Dosbarthodd y Trysorydd gopiau o gyfrifon y Cyngor i fyny at y 31ain o Ragfyr 2025 i bob aelod er mwyn iddynt gael gweld beth oedd y sefyllfa ariannol. Fe gafwyd trafodaeth ynlgyn ar mater uchod a penderfynwyd fod amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa - insiwrant y Cyngor £1,500, cyflog y Clerc £2,474 , costau y Clerc £1,500, costau swyddfa £500, treth ar gyflog y Clerc £495, Cyfrifydd y Clerc £228, cyfraniadau £4,000, pwyllgor neuadd bentref £3,000, costau fynwent £2,000, torri gwair y mynwentydd £2,500, torri gwair y llwybrau £1,200, cynnal a chadw Gardd y Rhiw £400, biniau halen £1,000, meinciau £1,000, Un Llais Cymru £150, llogi ystafell bwyllgor £150, archwilwyr £650, amrywiol £1,000, datblygu safle lloches bws £15,000, cynnal a chadw cae chwarae £1,000, costau banc £10. ‘Roedd hyn yn gwneud cyfanswm o £39,757.
Presept y Cyngor am 2026/27
Fe dderbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod. Ar ol trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd gadael y precept ar £34,000.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £15,773.19 yn y banc, £28,099.05 yn y cyfrif wrth gefn.
Taliadau yn ystod y mis
Cyllid a Thollad £119.00 - treth ar gyflog y Clerc
Cyngor Gwynedd - £350.38 - archebu bin ysbwriel i’r cae chwarae a’i gwagio pob wythnos
Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Ionawr)
Mr. K. Beale – £25.00 – Capel y Graig garage rent (January)
Gwynedd Council – £6,015.00 – Mantell Gwynedd Grant
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Lisa Birks a wnaeth y Cyng. Ffion Williams gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Anfonebau angen eu talu ers y cyfarfod diwethaf
Creative Play – £7,218.00 – gosod “wet pour” wrth y ddwy fynedfa i’r cae chwarae*
‘Roedd yr Aelodau wedi cytuno byddai yr anfoneb uchod yn cael ei thalu unwaith oedd y gwaith wedi ei gwblhau ag ‘roedd y Clerc wedi cysylltu gyda hwy ar y 18ed o Ragfyr yn gofyn am ganiatad i dalu yr anfoneb oherwydd bod y gwaith wedi ei gwblhau ag os na fyddai yr anfoneb yn cael ei thalu byddai y cwmni yn codi tal ychwanegol ar y Cyngor am daliad hwyr.
Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi derbyn yr Archwiliad Allanol yn nol a bod ddim materion o bwys wedi cael ei ddatgan arno. ‘Roedd hwn wedi ei anfon ymlaen i bob Aelod yn Barod.
MATERION A DRAFODWYD AR OL Y PWYLLGOR CYLLID
CEISIADAU CYNLLUNIO
Codi estyniad ffrynt a ochr Tirionfa, Talsarnau (NP5/77/363A)
.
Cefnogi y cais hwn
GOHEBIAETH
Llywodraeth Cymru
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor mae y swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2026/27 fydd £11.60 yr etholwr. Adroddodd y Clerc y rhif o diweddaraf o etholwyr sydd genni yw 441 ag felly mae gan y Cyngor hawl i gyfranu hyd at £5,115.60 i gyrff allanol.
Grwp Cynefin
Wedi derbyn e-bost gan Heledd Parry, Hwylusydd Tai o’r grwp uchod yn gofyn i’r Cyngor drafod dyddiadau i gynnal prynhawn agored.
Play Quest
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn a ydi’r Cyngor eisiau iddynt gario allan archwiliad o’r offer chwarae eto eleni. Cytunwyd edrych faint fyddai y gost o gario allan yr archwiliad hwn gan gwmni Creative Play yn gyntaf a chytunodd y Cadeirydd wneud hyn.
Mr. John Richards
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor ei fod yn ymddeol fel Aelod o’r Cyngor. Cytunwyd i anfon hwn ymlaen i’r Swyddog Etholiadol yn Gaernarfon. Cytunwyd anfon llythyr o ddiolch iddo am ei holl wasanaeth i’r Cyngor dros y blynyddoedd.
Mr. Owain Aeron
Wedi derbyn pris gan yr uchod i glerio yr hen ffesn, gosod ffens newydd a giat ar yr estyniad i fynwent Llandecwyn. Cytunwyd i dderbyn y pris hwn.
Mrs Margaret Roberts
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn pryderu am y sefyllfa parcio ar ystad dai Cilfor ag yn gofyn a fyddai modd i’r Cyngor wneud rhywbeth i ddatrys y broblem hon. Cafwyd wybod bod y mater hwn o ddatblygu maes parcio ger ystad dai Cilfor wedi cael ei drafod yn gyntaf yn 2016 a bod dim trafodaethau wedi bod ers Gorffennaf 2019 oherwydd bod y Cyngor o’r farn nid oedd y mater hwn ddim i’w wneud gyda’r Cyngor Cymuned.