YMDDIHEURIADAU
Cyng. Margaret Roberts, Lisa Birks a’r Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
PRESENNOL
Cyng. Dewi Tudur Lewis (Cadeirydd), Eluned Williams (Is-Gadeirydd), Betsan Emlyn, Owen Lloyd Roberts, Sian Mai Ephraim, Ffion Williams,. Ann Jones, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y golled oedd wedi dod i ran y Cyngor yn marwolaeth disymwyth y Cyng. Eifion Williams ddechrau mis Awst ag ‘roedd yn chwith meddwl ei fod wedi ein gadael mor sydyn ag yntau yn bresennol yn cyfarfod diwethaf y Cyngor yn mis Gorffennaf. ‘Roedd wedi rhoid oes o wasanaeth i’r Cyngor hwn ag i sawl pwyllgor arall yn yr ardal ag yn ffyddlon i bob cyfarfod ohonynt hyd y diwedd. Bydd bwlch mawr ar ei ol ag ‘rydym fel Cyngor yn cydymdeimlo gyda’r teulu oll yn eu colled a’i hiraeth am ddyn arbennig. Cafwyd munud o dawelwch a chytunwyd i gyfranu £200 i’r ddwy elusen er cof amdano.
Estynodd y Cadeirydd gydymdeimlad y Cyngor a Mr. Brynmor Jones a’r teulu yn dilyn marwolaeth ei wraig Mrs Julie Jones yn ddiweddar.
Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Betsan Emlyn i’w chyfarfod cyntaf o’r Cyngor a dymunodd yn dda iddi yn y dyfodol. Fe arwyddwyd Dogfen Derbyn Swydd gan y Cyng. Betsan Emlyn.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Gorffennaf 13eg 2026 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Nid oedd unrhyw fater yn codi o'r cofnodion
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £4,881.11 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £20,812.89 yn llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn..
Tir ger Bron Trefor
Oheerwydd absenoldeb y Cyng. Lisa Birks ar Cyng. Gwynfor Owen nid oedd posib cael diweddariad ynglyn ar mater uchod.
Arwydd Fflachio ger yr Ysgol
Oherwydd absenoldeb y Cyng. Lisa Birks ar Cyng. Gwynfor Owen nid oedd posib cael diweddariad ynglyn ar mater uchod. Cytunwyd bod y Cyng. Annwen Hughes yn cysylltu gyda’r Heddlu ynglyn ar gor-yrru drwy’r pentref.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – adroddodd ei bod wedi cael trafodaeth gyda
rhai o Swyddogion y Parc Cenedlaethol ynglyn ar datblygiad arfaethedig o’r tir sydd ger y parc chwarae
yn safle gwersylla ond nid oeddynt wedi derbyn ddim byd pellach gan y perchennog ynglyn a hyn a byddant
yn cadw llygaid ar y sefyllfa.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Codi estyniad un llawr, ardal barcio ehangach, pont fynediad, ffenestr dormer, f
ffenestri to ychwanegol, a
newidiadau i waliau'r perimedr, ffenestri a drysau allanol.3
Caerffynnon, Talsarnau (NP5/77/277C)
Gwrthwynebu y cais hwn oherwydd ni fyddai y datblygiad yn cyd fynd ar adeiladau o’I gwmpas.
Trosi adeilad allanol yn gegin/ystafell fwyta gyda chyswllt estyniad cyntedd,
ac addasiadau Eraill Ysgubor
Penmaen, Harlech (NP5/77/LB235B)
Cefnogi y cais hwn.
Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer trosi adeilad allanol yn gegin/ystafell fwyta gyda chyswllt estyniad cyntedd, ac addasiadau eraill Ysgubor Penmaen, Harlech (NP5/77/LB235C) Cefnogi y cais hwn.
Cais diwygiedig i godi garej ddwbl ar wahân, i'w adeiladu i mewn i'r tirwedd presennol
ac yn
ymgorffori to pridd a gwair Llidiart-Garw, Eisingrug, Talsarnau (NP5/77/36E)
Cefnogi y cais hwn.
Codi adeilad amaethyddol ar gyfer porthinat a pheiriannau Coetty Mawr, Llandecwyn (NP5/77/359A)
(NP5/77/359A)
Cefnogi y cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £28,899.96 yn y cyfrif rhedegol, a £48,287.85 yn y
cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Cyllid a Thollad £124.00 - treth ar gyflog y Clerc
Mr. Meirion Griffith - £235.00 - torri gwair mynwent Llanfihangel y Traethau
Mr. Meirion Griffiths - £210.00 - torri gwair mynwent Llandecwyn
Mr. Meirion Griffiths - £200.00 - cynnal a chadw Gardd y Rhiw
Cyngor Gwynedd - £420..00 - archwiliad mewnol 2025/26
Mrs Annwen Hughes - £989.46 (cyflog 6 mis) + £521.90 (costau 6 mis) = £1,511.36
Mr. M. J. Kerr - £00.00 - agor bedd y diweddar Mrs Gwyneth Jones
Pritchard a Griffiths - £200.00 - rhodd er cof am y diweddar Eifion Williams
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Eluned Williams a wnaeth y Cyng. Owen Lloyd Roberts
gymeradwyo’r
taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar
ddiwedd y cyfarfod
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Awst)
Pritchard a Griffiths - £2,025.00 - claddu y diweddar Mrs Gwyneth Jones
Cyngor Gwynedd- £17,000 - hanneer y precept
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Medi)
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Wedi derbyn e-bost gan yr Adran uchod ynglyn ag Ymgynghoriad Rhwydwaith Teithio Llesol
ag yn hysbysu y Cyngor
bod yr Ymgynghoriad hwn ar agor tan y 26ain o Dachwedd. Cytunwyd
bod y Clerc yn cysylltu gyda Ymgynghoriaeth
Gwynedd i ofyn a fyddai posib cael llwybr a fyddai yn
rhedeg o Landecwyn i Ynys.
UNRHYW FATER ARALL
Eisiau cysylltu gyda’r Swyddog Llwybrau, Cyngor Gwynedd i’w hysbysu bod pyllau dwr a mwd ar y llwybr cerrig cyn y
bont ochor Ynys.
Eisiau anfon at yr Adran Priffyrdd i’w hysbysu bod cerrig ar hyd ochor y ffordd o Ty Cerrig draw am Ynys.
Anfon at yr Adran Priffyrdd i ddatgan pryder ynglyn a chyflwr ffordd Barcdy ag hefyd ffordd allan o Landecwyn.
Eisiau cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd i dynnu eu sylw bod coed yn gor-dyfu i’r ffordd gyferbyn a Bronwylfa, Soar.
Cafwyd wybod gan y Cadeirydd bod yr arwydd yn y parc chwarae wedi disgyn a cytunwyd bod angen arwydd mwy ar
y safle.
Cafwyd wybod bod Mrs Siriol Lewis yn falch iawn bod rhai wedi cymeryd drosodd y cyfrifoldeb o edrych ar ol y
difribilwyr yn yr ardal ag hefyd cafwyd wybod bod angen pad newydd i’r un ger y garej. Rhoddwyd ganiatad i’r Clerc
dalu yr anfoneb am y pad hwn unwaith byddai wedi cyrraedd.
mud puddles on the stone path before the Ynys bridge.
Want to send to the Highways Department to let them know there are stones along the side of the
road from Ty Cerrig over to Ynys.
Send to the Highways Department to express concern about the condition of Barcdy Road as well as
the road out of Llandecwyn.
Want to contact the Highways Department to draw their attention to trees overgrowing onto the
road opposite Bronwylfa, Soar.
It was noted by the Chairman that the sign in the playground has fallen and it was agreed that a
bigger sign is needed on the site.
It was noted that Mrs. Siriol Lewis is very pleased that some have taken over the responsibility of
checking the defibrillators in the area and it was also noted that a new pad is needed for the one
near the garage. The Clerk was given permission to pay the invoice for this pad once it has arrived.