Annwyl Gynghorydd
Ysgrifennaf i ofyn am eich presenoldeb mewn cyfarfod ariannol o’r Cyngor Nos Lun Ionawr 19eg 2026 yn neuadd bentref, Talsarnau am 7.30 o’r gloch. Bwriedir trafod yr Agenda a ganlyn. finance meeting of the Council at the Village Hall, Talsarnau on Monday 19th January 2026 at 7.30 p.m. It is proposed to discuss the following Agenda.
Yn gywir
Annwen Hughes
Clerc
AGENDA
Ymddiheuriadau
Cadarnhau cofnodion o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar Dachwedd 17eg 2025.
Materion yn codi o’r cofnodion.
MATERION YN CODI
a) Hysbysfwrdd Cilfor
b) Panel Cyfrifiad Annibynnol
c) Cynllun Cyllideb
ch) Polisi Asesiad Risg y Cyngor
d) Prosiectau y Cyngor 2026/27
dd) Cyllideb y Cyngor am 2026/27
e) Presept y Cyngor am 2026/27
Adroddiad y Trysorydd
Anfonebau angen eu talu ers y cyfarfod diwethaf
Creative Play – £7,218.00 – gosod “wet pour” wrth y ddwy fynedfa i’r cae chwarae*
‘Roedd yr Aelodau wedi cytuno byddai yr anfoneb uchod yn cael ei thalu unwaith oedd y gwaith wedi ei gwblhau ag ‘roedd y Clerc wedi cysylltu gyda hwy ar y 18ed o Ragfyr yn gofyn am ganiatad i dalu yr anfoneb oherwydd bod y gwaith wedi ei gwblhau ag os na fyddai yr anfoneb yn cael ei thalu byddai y cwmni yn codi tal ychwanegol ar y Cyngor am daliad hwyr.
MATERION I'W TRAFOD AR OL Y PWYLLGOR CYLLID
Ceisiadau Cynllunio wedi dod i law (hyd at 10.01.26)
Codi estyniad ffrynt a ochr Tirionfa, Talsarnau (NP5/77/363A) .
Gohebiaeth wedi dod I law (hyd at 10.01.26)
Llywodraeth Cymru – Llythyr ynglyn a gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2026/27
Grwp Cynefin – e-bost ynglyn a dyddiadau prynhawn agored.
Play Quest – e-bost ynglyn a archwiliad o’r offer chwarae
Mr. John Richards – e-bost ymddiswyddiad o’r Cyngor.
Mr. Owain Aeron – fence ger mynwent Llandecwyn