Cofnodion Cyngor Cymuned Talsarnau - 15/07/24

Cofnodion Cyngor Cymuned Talsarnau - a gynhaliwyd yn y Neuadd Bentref, Talsarnau am 7:30 o'r gloch 15/07/24

COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH 15.07.24

 

YMDDIHEURIADAU

Cyng. John Richards, Margaret Roberts, Sian Mai Ephraim.

PRESENNOL

Cyng. Lisa Birks (Cadeirydd), Dewi Tudur Lewis (Is-Gadeirydd), Eluned Williams, Ffion Williams, Ann Jones, Eifion Williams, Owen Lloyd Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

DATGAN BUDDIANT

Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mai 20ed 2024 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Nid oedd unrhyw fater yn codi o’r cofnodion.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £2,731.07 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £8,335.93 yn llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn..

Tir ger Bron Trefor
Bu trafodaeth ynglyn ar uchod a cytunwyd y peth cyntaf I’w wneud oedd ceisio prynu y darn tir a cytunodd y Cyng. Lisa Birks gael gair gyda Mr. Harri Pugh ynglyn a hyn ag hefyd I gael manylion ei Gyfreithiwr.

Council Website
Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoid yr item uchod ar yr agenda oherwydd bod Archwilio Cymru ag yr Archwilwyr Mewnol wedi tynnu sylw y Cyngor bod ganddynt ddim gwefan ddigonol ar gyfer y Cyngor a bod rhannu gwefan gyda rhywun arall ddim yn dderbyniol. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu a Mr. Owen Brown ynglyn a hyn a gofyn iddo greu gwefan I’r Cyngor fel un Cyngor Cymuned Llanfair.

Cyfarfod Mynwentydd – 17.6.24
Cytunwyd bod y cofnodion o’r cyfarfod uchod yn iawn. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi gofyn i Mr. John Evans, Eithin Fynydd, Talybont gael golwg ar y giatiau i weld pa waith oedd angen ei wneud arnynt.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi cael e-bost gan yr Adran Priffyrdd yn hysbysu bod bwriad ganddynt i gario allan gwaith dros dro ar y ffordd ger Stabl Mail dydd Mercher y 19eg o fis diwethaf fel y gallant dynnu y goleuadau traffic dros yr haf ag hefyd i gael cyfle i fonitro’r sefyllfa ar wyneb y ffordd a byddant yn dychwelyd i’r safle wedi’r haf i gario allan y gwaith parhaol fydd yn cynnwys gwelliant i’r ffens ddiogelwch sydd ar y safle. Adroddodd y Cyng. Hughes ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod. Wedi cael ateb gan yr Adran Priffyrdd eu bod wedi rhoi Rhybudd Adran 81 ar Dwr Cymru wrth mai ei cyfarpar nhw yw y “manhole” sydd ar y ffordd ger y Ship Aground. ‘Roedd wedi cael gwybod gan yr Heddlu y byddant yn ymweld ar pentre er mwyn monitro cyflymder gyrrwyr ddechrau mis nesa.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi mynychu cyfarfod gyda’r Grid Cenedlaethol, ei fod wedi derbyn cwynion ynglyn ar goleuadau ger Stabl Mail ag ei fod wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn. ‘Roedd wedi derbyn cwyn gan aelod o’r cyhoedd am fater yn y pentre ag ar ol trafodaeth gyda’r Aelodau cytunwyd ei fod yn cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd ynglyn ar mater hwn.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Cais ôl-weithredol i godi garej/storfa ar wahân - Bron Y Garth, Llandecwyn (NP5/77/179A)
Cefnogi y cais hwn.

Trosi capel i dŷ ynghyd a newidiadau cysylltiedig Capel Soar, Soar, Talsarnau (NP5/77/LB65A)
Oherwydd newydd gael ei derbyn oedd y cais hwn, cytunwyd bod y Clerc yn ei anfon ymlaen I bob Aelod yfory.

Caniatâd Adeilad Rhestredig i drosi capel i dy a newidiadau cysylltiedig Capel Soar, Soar, Talsarnau (NP5/77/LB65D)
Oherwydd newydd gael ei derbyn oedd y cais hwn, cytunwyd bod y Clerc yn ei anfon ymlaen I bob Aelod yfory.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £16,474.04 yn y cyfrif rhedegol, a £7,575.69 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

Cyllid a Thollad - £115.40 - treth ar gyflog y Clerc
Archwilio Cymru - £754.00 – archwiliad allanol 2022/23
Mr. Meirion Griffiths - £450.00 - torri gwair mynwent Llanfihangel y Traethau x 2
Mr. Meirion Griffiths - £205.00 - torri gwair llwybrau cyhoeddus yr ardal

Cytunwyd i drosglwyddo £10,000 o’r cyfrif rhedegol i’r cyfrif cadw.

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Ffion Williams a wnaeth y Cyng. Ann Jones gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Mehefin)
Cylliad a Thollad - £143.60 – ad-daliad T.A.W.
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Gorffennaf)


GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Wedi cael ateb gan yr uchod ynglyn a materion oedd wedi cael eu codi yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ag yn datgan bod y gwyn ynglyn ar gamfa ar drywydd y llwybr arfordir wedi ei anfon ymlaen i Swyddog y llwybr arfordir. Ynglyn a llwybr coch sef llwybr cyhoeddus rhif 39 yn datgan bod dwr i weld yn cronni ar y rhan yma o’r llwybr ag am ei fod wedi cael ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSI) bydd angen ymgynghoriad gyda a chaniatad gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn y byddant yn gallu cario allan unrhyw waith cynnal a chadw mewn ymgais i ddatrys dwr ar y llwybr hwn.

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor eu bod yn cario allan y gwaith o osod giat yn lle camfa a torri tyfiant ar llwybr cyhoeddus rhif 4 yn ystod y mis hwn.

Cyngor Gwynedd – Adran Gyfreithiol
Wedi derbyn e-bost gan yr Adran uchod ynglyn a ymgynghoriad sysem pleidlais sengl ag yn datgan bod yna linc i’r ymgynghoriad er mwyn i’r Cyngor ei gwblhau. Cytunwyd anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod a gofyn iddynt anfon eu sylwadau i’r Clerc erbyn ddechrau mis Medi oherwydd fydd yr ymgynghoriad wedi cau cyn cyfarfod nesa y Cyngor.

Trafnidiaeth Cymru
Wedi derbyn e-bost gan Gail Jones ar ran Trafnidiaeth Cymru ynglyn ar diweddariad gyda Lein y Cambrian ag yn datgan eu bod wedi derbyn ychydig dros 500 o ymatebion. Er eu bod yn dal i adolygu adborth gan eu rhanddeiliaid mewn perthynas â rhannau eraill o’r rhwydwaith, maen’t mewn sefyllfa i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y newidiadau maen’t wedi gallu eu gwneud i amserlen Rheilffordd y Cambrian yn dilyn y broses adolygu hon, a mae’r manylion am y rhain isod.
Mae'r cynnig i redeg y trenau ychwanegol i gynyddu'r amlder i Aberystwyth i 1 trên llawn yr awr yn yr haf yn unig (Mawrth-Medi) i barhau h.y. NI fydd hyn yn cael ei gyflwyno yn y gaeaf. Fodd bynnag, byddant yn ychwanegu trên 16:30 o Amwythig i Aberystwyth drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn oherwydd niferoedd uwch o deithwyr ar drên 17:30 o Amwythig i Fachynlleth. Byddant yn anelu at gyflwyno’r gwasanaeth ychwanegol hwn ym mis Mai 2025, ond mae’n amodol ar gytundeb gyda gweithredwyr eraill a Network Rail. Bydd y gwasanaeth 1 trên yr awr ehangach yn dod i rym o fis Mawrth 2026.
Bwriedir symud y gwasanaeth 08:52 o Fachynlleth i Bwllheli a dychwelyd o Bwllheli am 11:37 yn ystod y gaeaf. Cafwyd ymateb sylweddol i’r cynnig hwn. Ar ôl llawer o ystyriaeth, maen’t wedi dewis cadw’r gwasanaethau 08:52 ac 11:37 drwy’r flwyddyn, fodd bynnag bydd niferoedd teithwyr a refeniw yn cael eu monitro’n agos dros gyfnod y gaeaf nesaf a’u hadolygu wrth gynllunio amserlen Rhagfyr 2025.
Bydd y gwasanaethau min nos olaf yn yr haf (mis Mawrth i Rhagfyr) - yn rhedeg ar yr un amseroedd ag y maent yn rhedeg ar hyn o bryd rhwng Pwllheli a Machynlleth (tua 20:26 Pwllheli tua'r de a 21:47 Machynlleth tua'r gogledd).
Byddant yn dyblu capasiti 4 gwasanaeth allweddol Arfordir y Cambrian o haf 2025 o 2 gerbyd i 4 cerbyd i gefnogi pobl leol, twristiaid a busnesau twristiaeth lleol allweddol. Bydd hyn yn golygu y bydd 560 yn fwy o seddi ar wasanaethau Arfordir y Cambrian yn ystod yr haf o gymharu â Haf 2022.
Hefyd adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn ateb gan Gethin Jones, Rheolwr Materion Cyhoeddus ar ran Mr. James Price, Prif Weithredwr yn diolch i'r Cyngor Cymuned am eu e-bost ynglŷn â'r newidiadau arfaethedig a fyddai'n digwydd ar Lein y Cambrian ac yn datgan bod y wybodaeth a roddwyd iddynt yn werthfawr iawn ac yn rhoi dealltwriaeth llawer cyfoethocach iddynt o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu cymunedau yng Ngwynedd sydd yn defnyddio gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn rheolaidd.

Creative Play
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn datgan gan ei bod yn 12 mis ers cwblhau gosod yr offer chwarae, hoffent ddarparu rhywfaint o wybodaeth mewn perthynas â'r pecynnau cynnal a chadw sydd ar gael i sicrhau diogelwch o’r offer. Cytunodd y Cyng. Lisa Birks gysylltu a hwy.

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod bod y fainc byth wedi cael ei gosod yn yr Ynys.
Adroddodd y Cyng. Eifion Williams ei fod yn bwriadu torri mwy o oriadau i’r hysbysfwrdd sydd yn Llandecwyn a cytunwyd bod y Clerc yn edrych beth yw pris hysbysfwrdd un darn fel yr un sydd wrth yr ysgol gynradd.
Cafwyd diweddariad ynglyn ar hyn oedd yn digwydd gyda ffordd osgoi Llanbedr.
Eisiau gwybod beth oedd y diweddariad ynglyn ar fferyllfa ym Mhendryndeudraeth.

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg