YMDDIHEURIADAU
Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
PRESENNOL
Cyng. Lisa Birks (Cadeirydd), Dewi Tudur Lewis (Is-Gadeirydd), John Richards, Eluned Williams, Ffion Williams, Ann Jones, Eifion Williams, Owen Lloyd Roberts, Margaret Roberts, Sian Mai Ephraim a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)
DATGAN BUDDIANT
Datganodd y Cyng. John Richards ddiddordeb yn y llythyr oedd wedi ei dderbyn gan Mr. Carwyn Richards ac fe arwyddwyd dogfen Datgan Buddiant Personol ganddo a ni chymerodd ran yn y drafodaeth. Datganodd y Cyng. Lisa Birks ddiddordeb yn y llythyr oedd wedi ei dderbyn gan Mr. Carwyn Richards ac fe arwyddwyd dogfen Datgan Buddiant Personol ganddo a ni chymerodd ran yn y drafodaeth.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Gorffennaf 15ed 2024 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Angen cymharu costau ar hyn sydd yn gael ei gario allan rhwng Play Quest a Creative Play ynglyn ag archwiliad o’r cae chwarae.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £4,283.47 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £10,148.53 yn llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn..
Tir ger Bron Trefor
Cafwyd wybod gan y Cyng. John Richards bod Mr. Harri Pugh yn fodlon gwerthu y darn tir ar y safle uchod I’r Cyngor ag hefyd cario allan y gwaith sydd ei angen ond nid oedd eisiau Cyfreithwyr I gymeryd gofal o’r gwerthiant. Penderfynwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Un Llais Cymru I ofyn am gymorth cyfreithiol ynglyn ar mater hwn ag hefyd cysylltu gyda Mr. Aled Lloyd, Parc Cenedlaethol Eryri I weld a oedd angen caniatad cynllunio I osod lloches bws ar y safle.
Council Website
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael cyfarfod gyda Mr. Owen Brown ynglyn a hyn a gofyn iddo greu gwefan I’r Cyngor fel un Cyngor Cymuned Llanfair ag adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi cael gwybod gan Mr. Brown bod y wefan bellach yn fyw ag bron yn barod. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen I’r Cadeirydd a ddangosodd clip o’r wefan ag ‘roedd pawb yn hapus gyda hyn.
HAL
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost ynghyd a chopi o’r daenlen diweddaraf gan Jodie Pritchard, aelod o Fwrdd yr uchod yn dilyn y cyhoeddiad bod y ganolfan yn cau ar y 1af o Awst ag yn gofyn os yw y Cynghorau sydd wedi stopio cyfranu at HAL eisiau ail feddwl a cychwyn cyfranu eto y byddant yn hapus i ddod i gyfarfod o’r Cyngo i drafod y mater. ‘Roedd pawb yn unfrydol i beidio ail gychwyn cyfranu i’r uchod drwy y cynllun precept.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi cael e-bost yn datgan bod arwyddion wedi cael eu gosod bob ochor i Bont Briwet yn datgan bod ffordd y bont ar gau rhwng y 6ed ar 8ed o fis Awst ag ‘roedd wedi gwneud ymholiadau gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn a wedi cael gwybod bod hyn ddim yn gywir oherwydd mae y ffordd ddi-ddosbarth sydd yn mynd heibio Maes y Coed i’r gogledd-ddwyrain o’r bont ei hun oedd yn cael ei chau. Oherwydd fyddai hyn ddim yn effeithio ar ffordd y bont ‘roedd wedi gofyn i’r arwyddion gael eu tynnu i lawr ag ‘roedd hyn wedi cael ei wneud. Yn dilyn pryderon gan rhai o’r pentrefwyr ynglyn a gor-yrru drwy’r pentre ‘roedd wedi cysylltu gyda’r Heddlu a wedi derbyn ateb yn datgan bod yna dim penodol sydd yn mynd o gwmpas y pentrefi yn gwirio cyflymder a maen’t yn yr ardal yma yn aml, ac ‘roedd yr Heddwas wedi son wrthynt am Talsarna yn benodol.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Trosi capel i dŷ ynghyd a newidiadau cysylltiedig Capel Soar, Soar, Talsarnau (NP5/77/LB65A)
Cefnogi y cais hwn ar yr amod fod hwn yn mynd yn gartref i rywun lleol, drwy werthu neu osod.
Caniatâd Adeilad Rhestredig i drosi capel i dy a newidiadau cysylltiedig Capel Soar, Soar, Talsarnau (NP5/77/LB65D)
Cefnogi y cais hwn ar yr amod fod hwn yn mynd yn gartref i rywun lleol, drwy werthu neu osod.
Caniatad Adeilad Rhestredig i drosi capel i dy a newidiadau cysylltiedig Capel Soar, Soar, Talsarnau (NP5/77/LB65D) CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG
‘Roedd amryw o’r Aelodau methu agor y linc I’r cais uchod a penderfynwyd gohirio ymateb I’r cais.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £15,962.64 yn y cyfrif rhedegol, a £17,575.69 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Ceisiadau am gymorth ariannol
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Lisa Birks a wnaeth y Cyng. Eluned Williams gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau yn ystod y mis
GOHEBIAETH
Mr. Carwyn Richards
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ar rhan criw o hogiau Talsarnau sydd yn gyfrifol am weithgareddau pel droed yn yr ardal ag yn gofyn a fyddai y Cyngor yn gallu cyfranu tuag at y gost i archebu crysau peldroed i’r tim sydd yn nawr yn chwarae mwy o gemau cyfeillgar yn erbyn Bermo a Porthmadog. Cytunwyd i gyfranu £400 iddynt ag i’r Cadeirydd ofyn i Mr. Carwyn Richards am y manylion banc.
Mr. John Evans
Adroddodd y Clerc yn dilyn cyfarfod y mynwentydd ei bod wedi gofyn i’r uchod gael golwg ar y gatiau yn mynwent Llanfihangel y Traethau ag ‘roedd wedi derbyn ateb ynghyd a lluniau yn dangos cyflwr y gatiau ag ‘roedd Mr. Evans yn datgan byddai yn well gosod gatiau newydd. Cytunwyd gofyn iddo am bris i wneud y gwaith hyn ag hefyd cael dau bris arall.
UNRHYW FATER ARALL
Datganwyd bod yna bryder fel Cyngor bod Plas Tan y Bwlch ar werth ag yn cefnogi pwyllgor achub y Plas.
Cafwyd wybod bod cwmni Hochtief wedi cynnig help mewn unrhyw ffordd ag eisiau yr Aelodau feddwl am waith iddynt ei wneud yn yr ardal.
Datganwyd siom bod y llinellau melyn dwbwl byth wedi cael eu gosod ar y rhiw i fyny am Soar.
Cafwyd wybod bod cerrig wedi cael eu tynnu ar tir Rhiw Derwydd a cytunwyd gosod potiau blodau ar y safle er mwyn dynodi mae y Cyngor Cymuned sydd yn berchen y tir a gofyn i Mr. Meirion Griffiths wneud hyn.
Datganwyd pryder bod mwy o gabanau wedi cael eu codi yn Soar a gofynwyd i’r Clerc gysylltu gyda Alys Tatum yn y Parc Cenedlaethol ynglyn ar mater hwn.
Cafwyd wybod bod defaid yn dod i’r ffordd ger Llandecwyn.
Cafwyd wybod bod cwynion wedi cael eu derbyn od ysbwriel yn cael ei adael yn y cae chwarae ag hefyd bod cwn yn cael mynediad yna. Cytunwyd gofyn i Oliver Redman wneud arwyddion yn datgan “ddim ysbwriel” a “ddim cwn”.
Cafwyd wybod bod yr arwydd “ddim aros dros nos” wedi cael ei dynnu yn culfan Ty Mawr.
Datganwyd pryder bod cerrig wedi dod i lawr i’r ffordd o’r wal o Ty Cerrig draw am yr Ynys.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DATE: ………………………………………