Cofnodion Cyngor Cymuned Talsarnau - 17/07/23

Cofnodion Cyngor Cymuned Talsarnau - a gynhaliwyd yn y Neuadd Bentref, Talsarnau am 7:30 o'r gloch 17/07/23

Cofnodion Cyngor Cymuned Talsarnau - a gynhaliwyd yn y Neuadd Bentref, Talsarnau am 7:30 o'r gloch 17/07/23

 

YMDDIHEURIADAU
Cyng. John Richards,

PRESENNOL
Cyng. Owen Lloyd Roberts (Cadeirydd), Margaret Roberts (Is-Gadeirydd), Dewi Tudur Lewis, Lisa Birks, Eluned Williams, Ffion Williams, Eifion Williams, Ann Jones, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.

COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mai 15ed 2023 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £2,321.83 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £8,209.28 llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.

Camerau CCTV
Adroddodd y Clerc bod y gwaith o gael yr offer yn Llandecwyn yn fyw wedi cael ei gwblhau o’r diwedd gan BT a bod y camerau yn nawr yn gweithio. Nid ydynt eto wedi cael eu trosglwyddo i’r Heddlu ag unwaith fydd hyn wedi cael ei wneud cytunwyd bod angen i’r Cyngor gael gweld y camerau hyn yn gweithio a penderfynwyd trefnu bod PCSO Paula Stewart neu Elliw Williams yn dod i gyfarfod nesa y Cyngor am 7.00 o’r gloch.

Cae Chwarae y Pentre
Adroddodd y Cyng. Lisa Birks ei bod wedi derbyn pris gan Creative Play I wneud y gwaith yn y safle uchod ag hefyd gan gwmniau eraill. Cytunwyd I dderbyn pris Creative Play oherwydd eu bod wedi cynnwys paratoi y safle yn y pris ag oedd y lleill ddim. Hefyd cytunwyd bod angen cael pris er mwyn cael offer I blant bach ar y darn gwyrdd.

LLinellau Melyn
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod ddim byd pellach I’w adrodd ynglyn ar uchod ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

Seddi Cyhoeddus
Adroddodd y Cyng. Margaret Roberts ei bod wedi tynnu lluniau o’r seddi a bod dwy angen sylw, yr un ger Gwyndy, Ynys a cytunwyd tynnu y sedd hon a gosod yr un sydd ger garej Honda yn ei lle ag oedd un ar gwaelod y rhiw yn Cilfor angen sylw a cytunwyd gofyn I Mr. Gwiion Roberts am bris I’w atyweirio.

Tir ger Bron Trefor
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod ddim byd pellach I’w adrodd ynglyn ar uchod ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

HAL
Yn absenoldeb y Cyng. John Richards adroddwyd ar ei ran ei fod wedi mynychu y cyfarfod gyda HAL ar y 29ain o fis diwethaf ar ran y Cyngor ac ‘roedd adroddiad o’r cyfarfod wedi ei dderbyn ac adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr adroddiad hon ymlaen i bob Aelod. Adroddodd y Clerc bod copi o gofnodion y cyfarfod hwn wedi cael ei anfon at bob Cyngor a bod wedi anfon rhain ymlaen i’r Aelodau yn barod. Aethpwyd drwy’r cofnodion hyn a datganwyd bod y Cyngor ddim yn fodlon i HAL anfon adroddiad ariannol bob tri mis a bod eu angen bob mis. Cafwyd wybod bydd cyfarfod pellach yn cael ei gynnal ar y 27ain o’r mis hwn rhwng y Cynghorau Cymuned a HAL. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd ynghyd â chopi o gyfrif elw a cholled y ganolfan ar gyfer mis Mai a chopi o'r dadansoddiad misol o ddefnydd o'r pwll rhwng Ionawr a Mai. Hefyd yn nodi bod y wal ddringo yn dal ar gau ac mae'r caffi yn rhedeg ar amserlen oriau agor llai oherwydd materion staffio.

413.............................................Cadeirydd
Roedd hefyd wedi derbyn e-bost arall ynghyd a gwybodaeth ynglyn ar incwm a gwariant wedi cael ei dorri i lawr oedd wedi ei wneud a’i dderbyn yn mis Mai. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn llythyr gan Glerc Cyngor Cymuned Llanbedr yn gwahodd 2 aelod o’r Cyngor i gyfarfod yn y neuadd bentref, Llanbedr ar y 3ydd o Awst am 7.00 o’r gloch i drafod y ffordd ymlaen rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal a HAL a cytunodd y Cyng. Lisa Birks fynychu y cyfarfod hwn ag hefyd eisiau gofyn i’r Cyng. John Richards a fyddai yntau yn fodlon ei fynychu. Datganwyd pryder gan yr Aelodau bod cable trydan yn cael ei redeg o adeilad y ganolfan i “motorhome” preifat oedd wedi ei leoli gerllaw. Bu trafodaeth a oedd y Cyngor yn mynd i dalu y cyfaraniad precept y mis hwn ag ‘roedd 5 Aelod yn cytuno i wneud, 2 yn erbyn ag 1 yn atal. Hefyd datganwyd ni fydd unrhyw daliad yn cael ei wneud yn mis Awst oherwydd bod ddim cyfarfod o’r Cyngor yn cael ei gynnal.

Ethol Cynghorydd
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan y Swyddog Etholiadol bod ddim enwau wedi eu dderbyn ganddo ynglyn ar sedd wag sydd yn bodoli ar y Cyngor ag felly nawr mae gan y Cyngor yr hawl I gyfethol Aelod o’r Cyngor. Cytunwyd I holi rhai a fyddai ganddynt ddiddordeb I fod yn Aelod o’r Cyngor.

Cyfarfod Mynwentydd – 5.7.23
Cytunwyd bod y cofnodion o’r cyfarfod uchod yn iawn. Datganwyd pryder bod y gwaith ffensio i fyny yn mynwent Llandecwyn byth wedi cael ei gario allan a cytunwyd datgan wrth Mr. Harri Pugh os na fydd y gwaith hwn wedi cael ei wneud erbyn diwedd mis Awst bod y Cyngor yn gofyn i gontractwr arall gario allan y gwaith.

Materion Cyngor Gwynedd
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi cael gwybod bod y Tim Tacluso Ardal wedi cario allan y gwaith tacluso i fyny ochor y ffordd am Bryn Street ond yn siomedig eu bod heb wneud y gwaith o docio yr eithin yn ol ar y ffordd i lawr am stesion Llandecwyn ag ei bod wedi cysylltu unwaith yn rhagor a hwy ynglyn a hyn. Hefyd ‘roedd wedi cael gwybod bod giat wedi cael ei gosod ar ben y llwybr sydd yn rhedeg wrth ochor y cyn Gapel Bethel ag ei bod wedi cysylltu ar Swyddog Llwybrau ynglyn a hyn ag ei fod yn mynd i edrych a fyddai yn bosib i’r Cyngor wneud cais i hawlio y llwybr hwn. Cafwyd wybod bod y giat yn agored ar hyn o bryd. Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi cael gwybod bydd y gwrychoedd yn cael eu torri yn fuan ag hefyd wedi derbyn ateb ynglyn ar arwydd “dim aros” ger Capel Soar. ‘Roedd wedi derbyn nifer o gwynion am yr arwyddion sydd wedi eu lleoli ar ochor y ffordd yn Llandecwyn yn datgan eu bod yn beryg ag eisiau eu codi i ben y wal. Datganodd bod ad-drefnu gorsafoedd tan yn mynd i gael ei gynnal a bydd hyn ddim yn effeithio ar Wynedd.

CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £36,414.07 yn y cyfrif rhedegol, a £9,211.91 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis
B.T - £39.59 - lein ffon camerau CCTV (11.6.23)
B.T - £39.59 - lein ffon camerau CCTV (11.7.23)
Cyllid a Thollad - £105.00 - treth ar gyflog y Clerc
Mr. Meirion Griffiths - £420.00 – torri gwair mynwent Llanfihangel y Traethau a Llandecwyn
Mr. Meirion Griffiths - £490.00 – torri gwair llwybrau cyhoeddus yr ardal.

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cadeirydd, y Cyng. Edwina Evans a wnaeth y Cyng. Tegid John gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Mehefin)
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Gorffennaf)

414…………………………………………..Chair

Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy – £357.00 (cyfraniad misol)

Fe adroddodd y Trysorydd bod yr Archwiliad Mewnol wedi cael ei gwblhau a bod dim materion arwyddocaol yn codi heblaw am am y materion isod -
Gellir datgan sicrwydd yn nhrefniadau llywodraethu a datganiadau cyfrifyddu Cyngor Cymuned Talsarnau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 yn seiliedig ar y profion a gynhaliwyd ond bod rhai elfennau y gellir eu tynhau i liniaru risgiau a adnabuwyd. Argymhellir bod y Cyngor yn ymrwymo i roi sylw i’r risgiau canlynol a chymryd camau priodol i’w lliniaru:
Diffyg yn y rheolaethau ar gyfer sefydlu, cymeradwyo a rhyddhau taliadau ar lein.
Diffyg ymwybyddiaeth / cydymffurfiad ble nad oes gyfeiriad at reolaethau rhyddhau a chymeradwyo taliadau ar lein yn rheoliadau ariannol y Cyngor.
Fe adroddodd y Trysorydd ymhellach bod y Cyngor hwn yn cael archwiliad llawn eleni ag ei bod wedi paratoi y dogfennau angenrheidiol ag wedi eu anfon i Archwilio Cymru yn Gaerdydd.

GOHEBIAETH
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.

UNRHYW FATER ARALL
Eisiau gofyn a fyddai yn bosib ail beintio “araf” ar y ffordd ger groesffordd Cilfor.
Adroddodd y Cyng. Lisa Birks ei bod wedi cysylltu gyda’r Tim Tacluso Ardal i ofyn iddynt dorri y gwrych ger y lloches bws yn Llandecwyn, ger y meinciau ar groesffordd Cilfor ar eithin ar y ffordd i lawr am stesion Llandecwyn.
Adroddodd y Cyng. Lisa Birks ei bod wedi dod o hyd i swyddi Hochief ag ei bod wedi eu rhannu ar y weblyfr.
Datganwyd pryder bpd gwair ochrau y ffyrdd gwledig byth wedi cael ei dorri ac adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda’r Peiriannydd Ardal ynglyn a hyn yn barod a bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud yn fuan.
Datganwyd bod baw cwn ar y ffordd o Soar at Llwybr y Wern.
Eisiau gofyn i Mr. Meirion Griffiths a fyddai’n bosib iddo dorri y drain ger Rhiw Derwydd
Cafwyd wybod bod y gwaith byth wedi cael ei gario allan ger Bont y Glyn a bod giat wedi malu ar y llwybr cyhoeddus am Y Glyn.

ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd

DYDDIAD......................................................

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg