Cofnodion Cyngor Cymuned Talsarnau - 18/11/24

Cofnodion Cyngor Cymuned Talsarnau - a gynhaliwyd yn y Neuadd Bentref, Talsarnau am 7:30 o'r gloch 18/11/24

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Lisa Birks (Cadeirydd).

 

PRESENNOL

Cyng. Dewi Tudur Lewis (Is-Gadeirydd), John Richards, Eluned Williams, Ffion Williams, Ann Jones, Eifion Williams, Owen Lloyd Roberts, Margaret Roberts, Sian Mai Ephraim a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

 

DATGAN BUDDIANT

Datganodd y Cyng. Eluned Williams ddiddordeb yng nghais cynllunio Y Garej, Talsarnau ag fe arwyddwyd Dogfen Datgan Buddiant Personol ganddi a ni chymerodd ran yn y drafodaeth.

 

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Medi 16eg 2024 fel rhai cywir.

 

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Cytunwyd ar ol trafodaeth i beidio gosod gatiau newydd yn mynwent Llanfihangel y Traethau ond atgyweirio y gatiau presenol.

 

MATERION YN CODI           

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £9,396.01 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £9,418.99 yn llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn..

 

Tir ger Bron Trefor

Cafwyd wybod gan y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda Un Llais Cymru I ofyn am gymorth cyfreithiol ynglyn ar mater hwn ag ‘roeddynt wedi datgan nid oedd rhaid cael Cyfreithiwr I weithredu ar ein rhan gyda’r mater hwn ag hefyd ‘roedd wedi cysylltu gyda Mr. Aled Lloyd, Parc Cenedlaethol Eryri a wedi cael gwybod bod angen caniatad cynllunio I osod lloches bws ar y safle.

 

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi cael e-bost gan yr Adran Amgylchedd, Cyngor Gwynedd yn ei hysbysu eu bod yn datblygu safle Ffridd Rasus fel eu prif hwb casglu a thrin gwastraff ar gyfer ardal de Gwynedd. Hefyd eisiau gwybod ei barn I dreialu cau “slots” I’r ganolfan ailgylchu rhwng 9.00 y bore a hanner dydd (ag weithiau tan 1.00 y prynhawn) yn ystod yr wythnos waith. ‘Roedd hefyd wedi cael ffigyrau ymweld a’r ganolfan yn ystod y ddau fis diwethaf a mae y wybodaeth hon ar gael os mae rhywun eisiau eu gweld. Hefyd ‘roedd wedi gofyn os fyddant yn uwchraddio y ffordd am bydd mwy o drafnidiaeth arni, ond nid yw hyn yn mynd i ddigwydd ar hyn o bryd. Hefyd ‘roedd wedi derbyn e-bost gan Arglwydd Harlech yn datgan bod ty Glyn Cywarch wedi ennill Gwobr Adfer Tai Hanesyddol 2024 ar cyntaf i wneud hyn y Gymru ers sefydlu y wobr yn 2008.

 

438………………………………………….Chairman

wedi mynychu seminar ar y diweddaraf ynglyn a sefyllfa cyllideb y Cyngor ag ydi y sefyllfa ariannol ddim yn edrych yn dda iawn o gwbwl at y dyfodol. Hefyd cafwyd wybod hwyrach bydd rhai gwasanaethau yn cael eu trosglwyddo i’r Cynghorau Cymuned ag ‘roedd wedi gofyn pa wasanaethau byddai rhain ond nid oeddynt yn gwybod ar hyn o bryd. Wedi gofyn iddynt a fyddai modd cael y wybodaeth hyn erbyn mis Ionawr er mwyn i’r Cyngor gael gosod y precept am y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Datganwyd pryder gan rhai Aelodau ynglyn a datblygiad safle Ffridd Rasus a bod yr oriau gwaith wedi newid i fod o 6.30 y bore a nid yw gweithlu cyfagos yn cael gweithredu yn ystod yr oriau hyn ag hefyd ‘roedd pryder ynglyn a mwy o draffig yn dod drwy’r pentre ag ar hyd y ffordd fawr

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi cael ei ethol yn Is-Gadeirydd Corff Llywodraethol Ffederasiwn Afon Dwyryd ag hefyd wedi cael ei ail ethol yn Gadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Hafod Lon. ‘Roedd pedwar aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd wedi ymddiswyddo ynghyd ag Arweinydd y Cyngor a bod y Cyng. Nia Jeffries wedi cael ei hethol yn Arweinydd newydd Grwp Plaid Cymru Gwynedd. Bod yr Awdurdod Tan yn codi precept 5% ychwanegol ar Gyngor Gwynedd ag hefyd yn talu £750k mwy o insiwrant gwladol. ‘Roedd dim newydd pellach ynglyn ar llinellau melyn dwbwl ar y ffordd I fyny am Soar a bod Cyngor Gwynedd yn disgwyl am ateb gan y Cyngor Cymuned I’r cynllun a datganwyd bod y Cyngor Cymuned wedi anfon hwn iddynt ers rhai misoedd.

 

CEISIADAU CYNLLUNIO

Newid defnydd o ystafell arddangos ceir i Siop A1 ynghyd ag estyniad i'r blaen a chodi estyniad llawr cyntaf i greu uned breswyl (fel y cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol o dan Ganiatâd Cynllunio NP5/77/27G) Y Garej, Talsarnau. (NP5/77/27K)

Cefnogi y cais hwn

 

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £10,909.10 yn y cyfrif rhedegol, a £17,637.71 yn y cyfrif cadw.

 

Taliadau yn ystod y mis

Mr. Meirion Griffiths - £225.00 - torri gwair mynwent Llanfihangel y Traethau

Mr. Meirion Griffiths - £205.00 - torri gwair mynwent Llandecwyn

Mr. Meirion Griffiths - £350.00 - torri gwair llwybrau cyhoeddus

Mr. Meirion Griffiths - £70.00 - costau petrol i dorri cae chwarae

Mr. Meirion Griffiths - £70.00 - gosod mainc yn Ynys

Mr. M. J. Kerr - £100.00 - agor bedd y diweddar Mrs Ruby Ann Healy (llwch)

Y Lleng Prydeinig - £40.00 - 2 dorchen pabi coch

Y Lleng Prydeinig - £40.00 - 2 dorchen pabi coch

 

Ceisiadau am gymorth ariannol

Pwyllgor Neuadd Bentref Talsarnau - £470.00

Eisteddfod Ardudwy - £500.00

 

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Sian Ephraim a wnaeth y Cyng. John Richards gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

 

 

 

439…………………………………………….Chairman

Anfonebau angen eu talu ers y cyfarfod diwethaf

Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Hydref)

Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Tachwedd)

 

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynghylch rhaglen waith ar gyfer mis Tachwedd ac yn nodi y bydd gwaith torri 730m o lystyfiant yn cael ei gario allan ger Llyn Tecwyn Uchaf, Llandecwyn yn ystod y mis hwn. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod.

 

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Wedi cael ateb ynglyn a materion oedd wedi cael eu codi yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ag yn datgan bod arwydd newydd “ddim aros dros nos” yn y culfan Talsarnau wedi cael ei archebu ganddynt a byddai yn cael ei osod unwaith y byddai wedi ei dderbyn. Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu ymhellach wythnos diwethaf yn gofyn lle oedd yr arwydd dan sylw. Yn datgan bod y waliau o Ty Cerrig draw am yr Ynys, yn waliau terfyn ac yn gyfrifoldeb ar y tirfeddianwyr ei cynnal a bod yr Arolygwr yn cadw golwg ar y sefyllfa a petai darganfod carreg ar y ffordd bydd yn ei rhoi yn ôl ar y tir wrth gefn.

 

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd o Dolorgan heibio Capel Soar Penrhiw, Soar yn cael ei chau ar yr 20ed o’r mis hwn ar sail iechyd a diogelwch i’r cyhoedd yn ystod gwaith adfer gwaith ar ran Dwr Cymru. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod.

 

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd A496 yn Talsarnau at bwynt ger ei gyffordd gyda’r B4573 gan deithio mewn cyfeiriad gogledd orllewinol hyd at bwynt ger Ynys, Talsarnau yn cael ei chau ar y 29ain o Ragfyr ar sail iechyd a diogelwch i’r cyhoedd yn ystod gwaith profi croesfan Ty Gwyn. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod.

 

Cyngor Gwynedd – Adran Etholiadol

Wedi derbyn e-bost gan yr adran uchod ynglyn ag arolwg cymunedol a fydd yn rhedeg o’r 11eg o’r mis hwn tan yr 20ed o Ragfyr ag yn gofyn a fyddai y Cyngor yn dymuno cymeryd rhan yn yr arolwg. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod. Cytunwyd bod ddim sylwadau i’w gwneud ynglyn ar arolwg hyn.

 

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Wedi derbyn e-bost gan yr adran uchod yn hysbysu y Cyngor eu bod wedi derbyn cais i osod giat ar llwybr cyhoeddus rhif 8 ag yn gofyn am sylwadau y Cyngor ar y mater. Hefyd yn datgan eu bod yn barod i ganiatau’r cais ar yr amod fod y perchennog tir yn cyflenwi ac yn gosod y giat ac yn ysgwyddo’r holl gostau cynnal a chadw yn y dyfodol. Cytunwyd bod gan y Cyngor ddim sylwadau ynglyn ar mater hwn.

 

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynglyn ag ymgynghoriad i wneud a chynlluniau parcio ag yn datgan o’r 1af o Ebrill 2025 bydd oriau gorfodi y meusydd parcio talu ac arddangos arhosiad byr yn newid o 10.00 hyd at 16.30 i’r drefn newydd o 9.00 hyd at 17.00 ag hefyd fydd newid yn strwythur y ffioedd parcio a bydd rhaid talu am arhosid am o leiaf 4 awr i’w gymharu a’r 2 awr sydd yn bodoli ar hyn o bryd. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod.

Parc Cenedlaethol Eryri

Wedi derbyn e-bost ynghyd a’r ddogfen ynglyn a chael Gorchymyn Gwarchod Coed ar Coed Penmaen, Talsarnau ag yn datgan bydd y mater hwn yn mynd i’r pwyllgor cynllunio ar y 4ydd o fis nesa ag yn gofyn am sylwadau yr Aelodau ar y mater hwn. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod. Cytunwyd bod gan y Cyngor ddim sylwadau ynglyn ar mater hwn.

 

Grid Cenedlaethol

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynglyn ar hyn fydd yn digwydd wrth gludo peiriant tyllu twnnel fel rhan o Brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri ag yn datgan bydd nifer o symudiadau llwyth amrhanadwy annormal yn yr ardal o ddydd Llun y 18ed o’r mis hwn ymlaen.

 

Eisteddfod Ardudwy

Wedi derbyn llythyr gan ysgrifennyddes yr uchod yn gofyn am gyfraniad ariannol tuag at gynnal yr eisteddfod uchod. Cytunwyd i gyfranu £500 iddynt.

 

Pwyllgor Neuadd Talsarnau

Wedi derbyn llythyr gan ysgrifennyddes yr uchod yn gofyn am gyfraniad ariannol tuag at y cabinet deffib newydd sydd wedi ei archebu oherwydd cyflwr gwael yr un tu allan i’r garej. Cytunwyd i gyfranu cost y cabinet deffib iddynt.

 

Mrs Margaret Roberts

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynghyd â lluniau yn dangos yr eithin ar drain sydd wedi gordyfu ar ochr y palmant sy'n arwain i lawr o gyffordd Llandecwyn tuag at Bont Briwet ac yn gofyn i'r Cyngor Cymuned dynnu sylw'r Adran Priffyrdd at y perygl hwn gan fod llawer yn defnyddio'r llwybr hwn i gerdded i ac o orsaf reilffordd Llandecwyn. Dywedodd y Clerc wrth yr Aelodau ei bod eisoes wedi anfon yr e-bost a'r lluniau hwn at Tim Tacluso Ardal Ni y Cyngor yn gofyn iddynt wneud y gwaith o dorri'r eithin ar drain hyn yn nol ar fyrder.

 

UNRHYW FATER ARALL

Datganwyd pryder bod y firgad tan yn methu mynd i fyny y ffyrdd cul sydd o gwmpas yr ardal a bod dwy wedi mynd yn styc yn ddiweddar ger Hen Ysgol, Llandecwyn a ger Llwyn Dafydd, Soar. Cytunwyd anfon llythyr ynglyn a hyn i’r Gwasanaeth Tan.

Cafwyd wybod bod pont yn Ynys angen sylw a cytunwyd anfon at y Swyddog Llwybrau ynglyn a hyn.

Datganwyd pryder bod Pont Rhosigor byth wedi cael ei thrwsio.

Datganeyd pryder bod arwydd “ffordd wedi cau” wedi cael ei osod i fyny yn Llandecwyn ar ffordd dan sylw yn Bermo.

Cafwyd wybod gan y Cyng. John Richards ei fod wedi cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd yn ddiweddar i ddatgan pryder bod dwr ar y ffordd ger Cei Newydd a bod ceir methu mynd heibio ag ei fod wedi cael ateb ganddynt yn dweud eu bod yn cario allan archwiliad o’r ffordd.

Arwyddion “dim cwn” angen cael eu rhoid i fyny yn y cae chwarae.

Cytunwyd i gynnal cyfarfod safle i drafod symud y Gofeb yn Llandecwyn.

Cafwyd wybod bod cyfarfod cyhoeddus yn cael i gynnal yn Gellilydan ar y 27ain o’r mis hwn i drafod dyfodol Plas Tan y Bwlch.

Datganodd y Clerc mae cyfarfod ariannol yn unig fydd yn cael ei gynnal yn mis Ionawr

 

SIGNED……………………………………….Cadeirydd  

 

DYDDIAD......................................................                   441

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg