YMDDIHEURIADAU
Cyng. Ann Jones,
PRESENNOL
Cyng. Owen Lloyd Roberts (Cadeirydd), Margaret Roberts (Is-Gadeirydd), John Richards, Lisa Birks, Eluned Williams, Ffion Williams, Gwenda Griffith, Eifion Williams, Dewi Tudur Lewis, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
Cyn cychwyn ar gyfarfod cyffredinol y Cyngor cytunwyd i drafod yr hyn oedd wedi cael ei ddweud yn y cyfarfod cyhoeddus oedd y Clerc wedi ei drefnu ar ran y Cyngor gyda Aelodau o Fwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy. Bu trafodaeth ynglyn a ddylai’r Cyngor gario ymlaen gyda’r cynllun precept i gyfranu swm penodol o arian i’r ganolfan hon yn benodol tuag at gynnal a rhedeg y pwll nofio ar taliad eleni am y flwyddyn fyddai £4,412.22. Cytunwyd i dalu hanner y swm hwn yn unig er mwyn i’r Bwrdd gael amser i dderbyn y grant £100k ‘roeddynt wedi rhoid cais i mewn am ag hefyd i gael amser i weld a oeddynt wedi bod yn llwyddianus i gael paneli solar. Cytunwyd bod eisiau datgan byddai’r Cyngor angen gweld yr amodau canlynol yn eu lle cyn y byddant yn barod i dalu yr hanner arall o’r arian, sef y canlynol 1) Cael mwy o aelodau ar y Bwrdd a rhai hefo arbennigedd mewn meusydd penodol, 2) Bod cynllun busnes yn cael ei greu, 3) Bod y Cyngor yn cael adroddiad misol ynghyd a mantolen ariannol gan y Bwrdd a 4) Bod y Cyngor yn gallu penodi un Aelod i fynychu cyfarfodydd y Bwrdd.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ionawr 16eg 2023 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £16,249.80 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £19,177.62 llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Camerau CCTV
Adroddodd y Cyng. John Richards ar Clerc bod y gwaith o gael yr offer yn Llandecwyn yn fyw byth wedi cael ei gwblhau oherwydd problemau yn dal hefo BT a bod y gwaith hwn i fod i gael ei gwblhau ar yr 28ain o’r mis hwn. Cytunwyd i dal y gweddill oedd i fod i Mr. Kevin Jones am y gwaith o osod y camerau heblaw am £500 oedd yn cael ei gadw’n nol nes fyddai y gwaith i gyd wedi cael ei gwblhau.
Cae Chwarae y Pentre
Adroddodd y Cyng. Lisa Birks ei bod wedi cael cwmni Creative Play I ymweld ar safle uchod I gario archwiliad allan ag y byddai yn anfon yr adroddiad ymlaen I bawb. ‘Roedd y cwmni hwn yn awgrymu tynnu y darnau rwber a gosod llawr rwber caled o dan y gadair siglen a chytunodd pawb I hyn.
LLinellau Melyn
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu ymhellach a Chyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod a bod Swyddog wedi anfon cynllun iddi yn gofyn a diddymu’r llinellau melyn dwbl presennol a gosod mannau parcio y neu lle a chynnig llinellau melyn newydd ar weddill y ffordd oedd hyn beth oedd y Cyngor eisiau ag ei bod wedi anfon hwn ymlaen I’r Cyng. Dewi Tudur Lewis yn gofyn am ei farn. ‘Roedd wedi ymateb ag yn datgan bod y cynllun hwn yn iawn. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon y wybodaeth hyn ymlaen I Gyngor Gwynedd ag ei bod wedi derbyn copi o lythyr a fydd yn ymddangos yn y papurau ynglyn a hyn a bod gan rhai tan yr 31ain o’r mis hwn I anfon sylwadau I mewn. Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi cael amryw o wrthwynebiadau I’r cynllun hwn a bod ef hefyd wedi anfon gwrthwynebiad I mewn ag ei fod wedi awgrymu cael cyfarfod ar y safle a cytunodd pawb I hyn ag hefyd bod y Cyng. Dewi Tudur Lewis yn cynrychioli y Cyngor yn y cyfarfod hwn.
Seddi Cyhoeddus
Adroddodd y Cyng. Margaret Roberts ei fod wedi cychwyn mynd o amgylch y seddi cyhoeddus ag ei bod wedi bod yn tynnu lluniau.
Tir ger Bron Trefor
Adroddodd y Cyng. John Richards ei fod wedi derbyn cynllun o’r uchod ag ei fod wedi ei basio ymlaen i Mr. a Mrs Harri Pugh a bod hwy yn mynd i gael barn cyfreithiol ar y mater.
Agor Tenderau Torri Gwair
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn un tender ynglyn a cario allan y gwaith uchod gan Mr. Meirion Griffith, Islwyn, Talsarnau am £14.00 yr awr i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus a un am £14.00 yr awr i dorri gwair mynwentydd Llanfihangel y Traethau a Llandecwyn. Cytunwyd i dderbyn tender Mr. Meirion Griffith.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi cael gwybod bod hwb wedi cael ei sefydlu ar gyfer y Timau Tacluso sydd wedi ei leoli o fewn y Porth Aelodau a bod hwn nawr yn fyw. Bydd yr hwb hwn yn ein galluogi i greu cais am waith, gael mynediad at raglen waith/cylchdeithiau’r Timau, derbyn manylion ynglyn a chynnydd/gwaith y Timau a cyflwyno adborth ar waith y Timau. Dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd o £11 miliwn oedd y flaenoriaeth mewn pryd ar gyfer y gyllideb ar yr 2il o Fawrth. Fe nodir bod £2 miliwn yn cael ei dynnu allan o gronfeydd wrth gefn i leihau'r cynnydd yn y dreth gyngor. Cytunwyd yn derfynol mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor a gynhaliwyd ar yr 2il o Fawrth ar gynnydd treth cyngor o 4.95% sy'n golygu cynnydd wythnosol i eiddo Band D o £1.45 yr wythnos neu £76 y flwyddyn.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod ddim yn hapus bod y gwaith ar y llwybr cyhoeddus lawr Ffordd y Stesion heb gael ei gwblhau er bod Cyngor Gwynedd yn dweud ei fod yn iawn. Gofynodd lle fyddai yr Aelodau, heblaw am y stryd fawr eisiau gweld 20 m.y.a yn cael ei osod ag awgrymwyd yn Llandecwyn ar Ynys.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Adeiladu tŷ fforddiadwy, creu cwrtil, ymestyn trac mynediad, a newidiadau i’r fynedfa cerbydau presennol -
Tir ger Tŷ Mawr, Talsarnau (NP5/77/347)
Cefnogi y cais hwn ar yr amod y bydd yn gartref i rhywun lleol, i'w brynu neu i'w osod ar gyfer pobol lleol
Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer ail-doi arfaethedig o Gapel Soar (Rhestredig Gradd II) ynghyd ag adeiladu storfa coed fel rhan o fesurau lliniaru ecolegol - Capel Soar, Soar (NP5/77/LB65B)
Cefnogi y cais hwn.
Caniatâd Adeilad Rhestredig i newid y tulathau to diffygiol ar adeilad iard - Glyn Cywarch, Talsarnau (NP5/77/LB230B)
Cefnogi y cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £37,340.44 yn y cyfrif rhedegol, a £4,165.26 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
B.T - £14.16 - lein ffon camerau CCTV (10.2.23)
B.T - £33.54 - lein ffon camerau CCTV (13.3.23)
Cyllid a Thollad - £100.00 – treth cyflog y Clerc
Mrs Annwen Hughes - £1,398.00 – cyflog a chostau 6 mis
Mr. M. J. Kerr - £90.00 - agor bedd y diweddar Mr. Lenard Brittland Horne (llwch)
Pwyllgor Neuadd - £180.00 - llogi ystafell bwyllgor am 2 flynedd
Mr. Meirion Griffith - £200.00 - cynnal a chadw Gardd y Rhiw
Mr. Kevin Jones - £1,475.00 - gosod camerau CCTV
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Chwefror)
Pritchard a Griffiths - £223.00 – claddu y diweddar Mr. Lenard Brittland Horne (llwch)
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Mawrth)
Ceisiadau am gymorth ariannol
Pwyllgor Neuadd Bentref - £1,500.00
Pwyllgor Cylch Meithrin Talsarnau - £1,500.00
Ysgol Ardudwy – £1,000.00
Ysgol Hafod Lon – £1,000.00
Ambiwlans Awyr Cymru - £1,000.00
CFFI Meirionnydd – £200.00
Adroddodd y Trysorydd ymhellach ei bod wedi gofyn i Ms Luned Fon Jones o Adran Cyllid, Cyngor Gwynedd a fyddai yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni ag ei bod wedi cytuno i hyn.
Adroddodd y Trysorydd bod yr arian o gyfrif Morris Hughes for Poor bellach wedi cael ei drosglwyddo i gyfrif Eglwys Efengylaidd Ardudwy a bod y cyfrif bellach wedi cael ei gau. Hefyd adroddodd y Clerc ei bod wedi cwblhau y ffurflenni perthnasol ag ei bod wedi cael gwybod bod yr elusen hon wedi cael ei thynnu o’r gofrestr elusenau er y 13eg o fis diwethaf.
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol
Wedi derbyn ateb gan yr uchod ynglyn a materion a godwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ag yn nodi os yw y Cyngor eisiau biniau halen newydd bod rhain ar gael am gost o £400 yr un i’r Cyngor Cymuned ag os bydd y Cyngor yn cytuno i dalu y swm hwn bydd Swyddog o’r Adran yn mynd allan i’r safle wedyn i sicrhau fod y lleoliadau yn addas. Cafwyd wybod bod yr Arolygwr Priffyrdd yn mynd i ymweld ar lleoliadau lle oedd dwr yn sefyll ar y ffordd sef groesffordd am Cefn Gwyn ag hefyd ger Stabl Mail ag yn trefnu gwaith maes o law, bydd yr Arolygwr Priffyrdd yn trefnu bod y peiriant ysgubo ffordd yn mynd i fyny i lanhau ochrau ffyrdd o ystad Bryn Eithin ag hefyd y ffordd i fyny am Soar. ‘Roedd y twll yn y ffordd ger Bryn Golau, Soar wedi cael ei lenwi ag hefyd erbyn hyn mae y twll yng nghilfan Glan y Wern wedi ei lenwi. Cytunwyd i archebu dwy bin halen a’i gosod ar y tro uwchben ystad Bryn Eithin ag wrth Capel Soar.
Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynglyn a pwyntiau gwefru i gerbydau trydan ag yn gofyn os byddai cyfle i ddenu arian grant yn y dyfodol ar gyfer cyflwyno rhagor o bwyntiau gwefru ar lecynnau tir sydd o dan cyfrifoldeb y Cyngor Cymuned neu y gymuned leol byddant yn hynod ddiolchgar os fyddai y Cyngor Cymuned yn gallu enwebu rhain. Cytunwyd bod ddim lle addas i’w gael.
Ysgol Ardudwy
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn am gymorth ariannol tuag at uwchraddio y cwrt tenis presennol sydd yn yr ysgol trwy osod ffens newydd o’i amglych a datblygu cae aml bwrpas yna. Cytunwyd i gyfranu £1,000 tuag at y gwaith hwn.
Ms. Rachel Heal
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod sydd yn riant i blentyn sydd yn mynychu Ysgol Hafod Lon yn gofyn a fyddai y Cyngor yn fodlon rhoid cyfraniad ariannol tuag at archebu beic arbennig i blant yn Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth. Cytunwyd i gyfranu £1,000 tuag at archebu beic.
UNRHYW FATER ARALL
Datganwyd siom bod yr arwydd “dim parcio dros nos” byth wedi cael ei osod ger Capel Soar.
Diolchodd y Cyng. Dewi Tudur Lewis i’r Cyngor am eu cyfraniad i’r Capel Newydd tuag at eu cynllun Croeso Cynnes.
Cllr. Dewi Tudur Lewis thanked the Council for their contribution to the New Chapel for their Warm Welcome scheme.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD......................................................