YMDDIHEURIADAU
Cyng. Margaret Roberts, Ann Jones a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd) .
PRESENNOL
Cyng. Lisa Birks (Cadeirydd), Dewi Tudur Lewis (Is-Gadeirydd), John Richards, Eluned Williams, Ffion Williams, Eifion Williams, Sian Mai Ephraim, Owen Lloyd Roberts, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
Croesawodd y Cadeirydd Mrs Naomi Jones o’r Parc Cenedlaethol i’r cyfarfod i drafod diweddariad ynglyn a Phlas Tan y Bwlch gyda’r Cyngor. Cafwyd amlinelliad o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd ers cyhoeddi bod Plas Tan y Bwlch yn mynd ar werth blwyddyn yn nol a bod tri diwrnod agored wedi cael eu cynnal. Ers penodi Prif Weithredwr newydd y Parc Cenedlaethol mae y cynlluniau ynglyn a Phlas Tan y Bwlch wedi newid ar bwriad nawr yw symud y pencadlys i Blas Tan y Blwch ag er mwyn gallu gwneud hyn mae ceisiadau am grantiau sylweddol yn cael eu darparu. Cytunwyd mewn egwyddor i gefnogi yr hyn mae Awdurdod y Parc yn ceisio ei wneud hefo Plas Tan y Bwlch.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mai 19eg 2025 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Nid oedd unrhyw faterion yn codi o'r cofnodion
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £2,727.91 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £5,541.09 yn llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn..
Tir ger Bron Trefor
Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon at bysiau Lloyds ond heb gael ateb eto a cytunwyd ei bod yn ceisio cysylltu hefo nhw eto.
Parc Chwarae
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a chael bin ysbwriel yn y safle uchod ag hefyd wedi datgan bod y Cyngor yn barod i dalu ei wagio. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi cael ateb gan Mr. Steffan Jones yn datgan bydd ddim problem i gael bin ysbwriel wedi ei gosod ar y safle hwn a byddant yn cael pris wedi nodi ar gyfer ei wasanaethu. Hefyd yn datgan mewn perthynas a lleoli bin baw ci arall ,mewn egwyddor nid oes problem ond yn gofyn a oes gan y Cyngor leoliad lle byddant yn gweld y defnydd gorau iddo. Cytunwyd i gael y bin baw ci wedi ei osod wrth ymyl y maes parcio. Datganodd y Cadeirydd ei bod heb glywed dim yn nol ynglyn ar grant gan Mantell Gwynedd.
LLwybr Cyhoeddus Rhif 52
Adroddwyd bod rhybudd wedi cael ei dderbyn bod y llwybr hwn yn cau o’r 21ain o’r mis hwn am gyfnod na fydd yn fwy na chw mis neu hyd nes bydd y gwaith wedi ei orffen. Adroddodd y Cyng. John Richards ymhellach ei fod wedi bod trafodaethau gyda’r Swyddog Llwybrau ynglyn ar gwaith sydd yn mynd i gael ei gario allan a bod cwmni Hotchief ar Grid Cenedlaethol wedi cytuno i dalu i Gyngor Gwynedd ar Parc Cenedlaethol i ddod a llwybr gwyriad am eglwys Llandecwyn o gornel rhiw ystad Bryn Eithin i fyny am yr eglwys i’r safon gofynnol ynghyd a gosod gatiau ag arwyddion.
Cyfarfod Mynwentydd - 16.6.25
Datganodd y Clerc ei bod wedi anfon copiau o gofnodion y cyfarfod uchod I bob Aelod a cytunwyd bod rhain yn gywir. Cafwyd wybod gan y Cyng. John Richards bod angen polion newydd I ddal y ffens o amgylch darn tir y fynwent ger Eglwys Llandecwyn oherwydd bod y rhai presennol wedi pydru. Cytunwyd gofyn I Mr. Meirion Griffith ag Owain Aeron wneud y gwaith hwn.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi cysylltu sawl gwaith gyda Chyngor Gwynedd ynglyn ar cerbyd sydd wedi cael ei adael yn gilfan Ty Mawr ag ei bod wedi cael addewid eu bod yn delio gyda’r mater ag yn aros i gael manylion y perchenog gan y DVLA. Angen gofyn am yr arwydd “Dim parcio dros nos” gael ei ail osod ag hefyd datgan pryder bod ddim arwyddion o’r fath mewn cilfannau eraill. Cytunodd y Cyng. Eifion Williams fynd o amgylch cilfanau yr ardal i weld pa rhai oedd angen arwyddion “Dim aros dros nos”.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Codi estyniad ffrynt a ochr to fflat Tirionfa, Talsarnau (NP5/77/363) .
Cefnogi y cais hwn
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £10,909.71 yn y cyfrif rhedegol, a £27,884.58 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Defib Store - £70.80 - pad newydd i defib Ynys
Cyllid a Thollad £118.80 - treth ar gyflog y Clerc
Archwilio Cymru - £200.00 – archwiliad allanol 2021/22
Clear Insurance Ltd - £29.65 - tal yswiriant ychwanegol ar gyfer camerau CCTV
Mr. Meirion Griffiths - £460.00 - torri gwair mynwent Llanfihangel y Traethau x 2
Mr. Meirion Griffiths - £210.00 - torri gwair mynwent Llandecwyn
Mr. Meirion Griffiths - £450.00 - torri gwair llwybrau cyhoeddus
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Lisa Birks a wnaeth y Cyng. Sian Ephraim gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi cael e-bost gan y banc yn datgan eu bod yn dod ar taliad misol o £8 I ben ar y 1af o’r mis hwn.
Gofynnodd y Trysorydd am ganiatad y Cyngor I wneud taliadau sydd I weld yn rhai brys yn ystod mis Awst oherwydd nid oes cyfarfod swyddogol o’r Cyngor tan mis Medi. Gafodd y caniatad hwn ei wrthod.
Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Mehefin)
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Gorffennaf)
GOHEBIAETH
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.
UNRHYW FATER ARALL
Eisiau gofyn i Tim Tacluso Ardal Ni i dorri y drain o amgylch lloches bws Llandecwyn ag hefyd o amgylch y seddi ger groesffordd Cilfor.
Eisiau gofyn i Meirion Griffith dacluso o amgylch Rhiw Derwydd.
Angen torri y coed yn nol ger Tegfan oherwydd bod y canghenau yn rhwystr i'r loriau wrth iddynt basio. Cytunwyd i anfon at yr Adran Priffyrdd ynglyn a hyn.
Angen tynnu sylw Opus i gyflwr y "manholes" ar ffordd Bont Briwet
Eisiau gofyn i'r Parc Cenedlaethol am ddatganiad ysgrifenedig ynglyn ar cabanau sydd ger coed Maes y Neuadd
Datganwyd pryder ynglyn a gor-yrru trwy'r pentre a cytunwyd gysylltu gyda'r Heddlu
Diolchodd y Cyng. Dewi Lewis i'r cyfraniad £500 i Gwmni Seren
Adroddodd y Cyng. John Richards ei fod wedi cysylltu gyda Opus a byddai yn anfon yr e-bost hwn i bawb
Datganwyd pryder bod ddim chwestryllwr gwynt ar y trenau