Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Talsarnau - 15/09/25

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Talsarnau - 15/09/25

YMDDIHEURIADAU
Cyng. John Richards, Eluned Williams, Ffion Williams, Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd) .

PRESENNOL
Cyng. Lisa Birks (Cadeirydd), Dewi Tudur Lewis (Is-Gadeirydd), Margaret Roberts, Ann Jones, Eifion Williams, Sian Mai Ephraim, Owen Lloyd Roberts, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)

DATGAN BUDDIANT
Datganodd y Cyng. Lisa Birks ddiddordeb yng nghais cynllunio 13 Stryd Fawr, Talsarnau ag fe arwyddwyd Dogfen Datgan Diddordeb Personol ganddi a ni chymerodd rhan yn y drafodaeth.

COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Gorffennaf 14eg 2025 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI O’R COFNODION
Datganwyd siom bod ddim gohebiaeth wedi dod i law gan y Parc Cenedlaethol ynglyn ar cabanau yn coed Maes y Neuadd a cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda hwy unwaith yn rhagor.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £4,283.16 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £21,744.84 yn llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn..

Tir ger Bron Trefor
Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon at bysiau Lloyds unwaith yn rhagor ond dal heb gael ateb ganddynt. Cytunwyd I anfon atynt unwaith yn rhagor ag hefyd ysgrifennu at yr Adran Priffyrdd.

Parc Chwarae
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael ateb gan Mr. David Charles Williams, Rheolwr Tim Tacluso Ardal Ni yn datgan ei fod wedi cyfarfod Mr Lerigo ychydig o wythnosau nol i trafod biniau yn Talsarnau, ‘roedd Mr. Lerigo eisiau mwy o finiau baw ci ger yr orsaf ond datganwyd wrtho byddai yn rhaid monitro y sefyllfa yn gyntaf cyn ymrwymo i osod mwy o biniau. ‘Roedd I weld digon hapus gyda hyn yna aeth yn ei flaen i holi am fin ysbwriel yn y cae chwarae, ag ‘roedd Mr Williams wedi egluro nid oedd wedi derbyn cais am fin yno ond mae’r ardal dan ofalaeth y Cyngor Cymuned felly roedd yn benderfyniad I’r Cyngor hwn os oedd eisiau bin ysbwriel yn y cae chwarae. ‘Roedd Mr. Williams wedi derbyn gohebiaeth gan Mr. Lerigo yn dangos bod trafodaethau wedi cael eu cynnal ynglyn a gosod bin ysbwriel yn y cae chwarae ag felly ‘roedd Mr. Williams yn nodi bod eu gwasanaethau am wagio y bin unwaith yr wythnos yn £4.05 ag yn dod I £210.60 y flwyddyn. Hefyd datganodd bydd yn rhaid I’r Cyngor archebu bin ag ‘roedd eisiau gwybod sut fydd oedd eisiau arnynt. Dywedodd y Clerc ei bod wedi datgan wrth Mr. Williams byddai y mater hwn yn cael ei drafod yn y cyfarfod heno. Cytunwyd gofyn I Mr. Williams archebu bin £190.73 ar ran y Cyngor er mwyn ei gosod yn y cae chwarae. Cafwyd wybod gan y Cadeirydd bod y Cyngor wedi bod yn llwyddianus hefo’r grant Mantell Gwynedd I osod “wet pour” ar y ddwy mynedfa I’r cae chwarae a diolchwyd I’r Cadeirydd am ei holl waith yn cwblhau y cais grant. MATERION CYNGOR GWYNEDD Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan

MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn ar cerbyd sydd wedi cael ei adael yn gilfan Ty Mawr ag ei bod wedi cael gwybod bod y cerbyd bellach wedi ei symund o’r cilfan. Hefyd cafwyd wybod bydd y gwaith gan cwmni Opus yn ail gychwyn yn Penrhyndeudraeth ar yr 22ain o’r mis hwn. 454

CEISIADAU CYNLLUNIO
Gosod paneli solar ar y to ffrynt a cefn a gosod pwmp gwres ffynhonnell aewr ar y edrychiad cefn 13 Stryd Fawr, Talsarnau (NP5/77/365)
Cefnogi y cais hwn

ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £26,404.46 yn y cyfrif rhedegol, a £27,884.58 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis

Cyllid a Thollad £118.80 - treth ar gyflog y Clerc
Mr. Meirion Griffiths - £230.00 - torri gwair mynwent Llanfihangel y Traethau
Mr. Meirion Griffiths - £210.00 - torri gwair mynwent Llandecwyn
Mr. Meirion Griffiths - £200.00 - cynnal a chadw Gardd y Rhiw
Mrs Annwen Hughes - £1,390.87 – cyflog a chostau 6 mis
Cyngor Gwynedd - £408.00 - archwiliad mewnol 2024/25
Mr. M. J. Kerr - £150.00 - agor bedd y diweddar Mr. J. Francis (llwch)
Mr. Wayne Farrell - £3,000.00 - archebu nwyddau ar gyfer gwaith prosiect adfywio yn Cilfor

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Dewi Tudur Lewis a wnaeth y Cyng. Lisa Birks gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Awst)
Cyngor Gwynedd - £17,000.00 – hanner y precept
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Medi)

GOHEBIAETH
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.

UNRHYW FATER ARALL
Cafwyd wybod gan y Cadeirydd ei bod wedi gwneud cais am grant o £4,700 o gronfa Gwynedd Ni er mwyn archebu dwy fainc newydd, bocsys blodau a blodau i’w gosod ger y groesffodd yn Cilfor a bod y cais wedi bod yn llwyddianus. Cytunwyd trefnu taliad i Wayne Farrell er mwyn iddo gael cario allan y gwaith sydd ei angen.
Datganwyd pryder bod anifeiliad yn cael pori ger llwybrau cyhoeddus a datganwyd bod hyn yn gyfreithlon.
Cafwyd wybod gan y Cyng. Eifion Williams ei fod wedi bod yn edrych lle i gael arwyddion “dim aros dros nos” ag hefyd datganwyd pryder bod y tir comin yn yr Ynys yn cael ei adnabod fel tir preifat.

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg