YMDDIHEURIADAU
Cyng. Lisa Birks (Cadeirydd), Dewi Tudur Lewis (Is-Gadeirydd)
Cyng. Eluned Williams, Ffion Williams, Ann Jones, Eifion Williams, Owen Lloyd Roberts, Margaret Roberts, Sian Mai Ephraim a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
Oherwydd absenoldeb y Cadeirydd ar Is-Gadeirydd, cymerwyd y Gadair gan y Cyng. Owen LLoyd Roberts
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ionawr 19eg 2026 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Nid oedd unrhyw fater yn codi o'r cofnodion
Cynllun Cyllideb Adroddwyd bod £20,235.41 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £12,653.59 yn llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn..
Tir ger Bron Trefor
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan y Cadeirydd bod ganddi ddim byd I ychwanegu ar y mater hwn ond yn gobeithio cael diweddariad erbyn y cyfarfod nesa. Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi ymwelch a perchennog y tir arall ag ei fod, mewn egwyddor yn fodlon I wneud lle I loches bws ond bod eisiau gwybod y mesuriadau.
Hysbysfwrdd Cilfor
Yn absenoldeb y Cadeirydd gofynodd y Clerc a oedd pawb yn hapus I gario ymlaen I archebu hysbysfwrdd newydd I’w osod yn lle yr un hen am y pris oedd y Cadeirydd wedi ei dderbyn a cytunodd pawb I hyn ag hefyd cytunwyd bod y Cadeirydd yn edrych I mewn I gael prisiau I osod yr hysbysfwrdd.
Ethol Cynghorydd
Adroddodd y Clerc bod y rhybudd ynglyn ar sedd wag sydd yn bodoli ar y Cyngor wedi cael ei rhoid I fyny ar wefan y Cyngor ag hefyd ar yr hysbysfwrdd yn y pentre a mae ar yr 20ed o’r mis hwn bydd y rhybudd yn dod I ben.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi derbyn e-bost gan etholwr yn dilyn y lliffogydd oedd yn yr ardal diwedd y flwyddyn diwethaf ag yn gofyn a fyddai modd iddi gysylltu gyda Chyngor Gwynedd I’w hysbysu oherwydd y lliffogydd oedd ar y ffordd yn yr Ynys bod ty oedd mewn perchnogaeth ei wraig wedi cael ei ddifrodi hefo dwr. Oherwydd hyn nid oedd posib gwerthu y ty hwn am bod y rhai oedd yn mynd I’w brynnu wedi tynnu yn nol oherwydd y difrod. Adroddodd ymhellach ei bod wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn ag ei bod wedi cael diweddariad yn datgan bod y gwaith o glirio’r cylfat oedd o dan y ffordd bellach wedi ei gario allan a bod y dwr yn llifo yn iawn erbyn hyn ag y byddant yn monitro’r safle yn ystod y tywydd garw nesa. Hefyd ‘roedd wedi cael gwybod bod y ffordd o Bont y Glyn I fyny am Eisingrug wedi cael ei glanhau ar ol iddi dderbyn pryder am ei chyflwr gan etholwr. ‘Roedd hefyd wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn ar arwydd oedd wedi malu ar ochor y ffordd yn yr Ynys.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod gwahanol gyfarfodydd wedi cael eu cynnal I drafod yr adroddiad CPR a bod Cyngor Gwynedd wedi derbyn cyfrifoldeb llwyr am yr hyn oedd wedi digwydd. Cafwyd wybod bydd treth y Cyngor yn debygol o fod yn 5.1% o fis Ebrill ymlaen ond ni fydd unrhyw dorriadau ychwanegol yn cael eu gwneud.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £21,342.81 yn y banc, £28,099.05 yn y cyfrif wrth gefn.
Taliadau yn ystod y mis
Pwyllgor Neuadd Bentref – £210.00 - llogi ystafell bwyllgor (ers mis Mai 2024)
Snowdonia Design & Print - £52.80 - arwydd ar meinciau Cilfor
Lwfansau sydd yn cael eu talu i Gynghorwyr
Adroddodd y Trysorydd bod y Cynghorwyr oedd wedi llofnodi y ffurflen mis Ionawr 2025 yn datgan eu bod yn cymeryd y lwfans o £156 yn cael eu talu yn nawr ag fe lofnodwyd ffurflen gan y Cyng. Eluned Williams, Sian Mai Ephraim ag Ann Jones. Bydd y Cynghorwyr oedd yn absenol yn cael eu talu yng nghyfarfod nesa y Cyngor.
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Margaret Roberts a wnaeth y Cyng. Ffion Williams gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Chwefror)
Cyllid a Thollad - £1,261.40 – ad-daliad TAW
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod yn bosib cael grant tuag at gario allan gwaith ar ddolen am y wybodaeth hwn yw https://www.nationalgrid.com/responsibility/community/community-grant-programme-welsh ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen i bob Aelod yn barod.
GOHEBIAETH
National Grid VIP
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod yn bosib cael grant tuag at gario allan gwaith ar ddolen am y wybodaeth hwn yw https://www.nationalgrid.com/responsibility/community/community-grant-programme-welsh ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen i bob Aelod yn barod.
Cyngor Gwynedd – Adran Gyfreithiol
Wedi derbyn llythyr gan yr Adran uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd o Dolorgan heibio Capel Soar ar gau ar y 9ed o Fawrth ar sail iechyd a diogelwch i’r cyhoedd yn ystod gwaith cysylltu gwasanaeth newydd ar ran Dwr Cymru. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen i bob Aelod yn barod.
Cyngor Gwynedd – Adran Economi Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd grant ar gael i Gynghorau Cymuned drwy Cronfa Cefnogi Cymghorau Dinas, Tref a Chymuned Gwynedd 2026 a bydd y wybodaeth lawn ynglyn ar grant dan sylw yn cyrraedd y Cyngor ddechrau mis nesa. Bwriad y gronfa yw cefnogi prosiectau cyfalaf sy’n gwella gofodau cymunedol, mannau cyhoeddus ac yn cyfrannu at adfywio lleol ag yn annog i’r Cyngor ddechrau meddwl am brosiectau posib. ‘Roedd y Clerc wedi anfon hwn ymlaen i bob Aelod yn barod. Eisiau cysidro y cynllun am y lloches bws yn y grant hwn.
UNRHYW FATER ARALL
Angen ail beintio y llinellau gwyn ar y groesffordd yn Llandecwyn.
Eisiau gofyn i Tim Tacluso Ardal Ni a fyddai yn bosib iddynt ddod i’r ardal i lanhau yr arwyddion mewn gwahanol leoliadau a cytunodd y Cyng. Ann Jones wneud rhestr o rhai sydd angen sylw.
Aelodau pwyllgor y neuadd eisiau gwybod beth sydd yn digwydd hefo y mater ynglyn ar difibrilyddion yn yr ardal a datganwyd bod y Cyng. Dewi Tudur Lewis wedi cytuno i drafod y mater hwn gyda rhai o aelodau pwyllgor y neuadd.
Cafwyd wybod bod rhwystyr ar draws y llwybr o’r traeth ger Allt Galch angen sylw.
Angen torri y gwrych ger Snowdon View a cytunwyd cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd.
Eisiau cysylltu hefo’r Adran Priffyrdd ynglyn ar dwr sydd yn aros ar y ffordd yn Glan y Wern.