Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Talsarnau - 19/05/25

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Talsarnau - 19/05/25

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Dewi Tudur Lewis (Is Gadeirydd)

PRESENNOL

Cyng. Lisa Birks (Cadeirydd), John Richards, Ann Jones, Eluned Williams, Ffion Williams, Eifion Williams, Sian Mai Ephraim, Owen Lloyd Roberts, Margaret Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Meryl Roberts o Benrhyndeudraeth i’r cyfarfod i drafod y gwaith mae cwmni Opus yn ei gario allan yn yr ardal. Datganwyd bod cyfarfod wedi cael ei gynnal rhwng cwmni Opus a rhai o’r Cynghorwyr yn Talsarnau ar yr 16eg o’r mis hwn er mwyn cael gwybod beth oedd y gwaith oedd yn cael ei gario allan. Datganwyd bod angen rheolaeth traffic yn y sgwar yn Mhenrhyndeudraeth ag hefyd cytunwyd bod angen cyfarfodydd ar y cyd rhwng y ddau Gyngor a cwmni Opus.

DATGAN BUDDIANT

Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mawrth 17eg 2025 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Peidio a trafod y maes parcio ymhellach oedd angen ei gofnodi a nid y maes parcio ar cae chwarae.

Datganodd y Cyng. John Richards nid oedd yn gallu cael mynediad i weld y camerau CCTV yn Llandecwyn ddim ond yr Heddlu fyddai yn gallu gwneud hyn.

MATERION YN CODI           

Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2025/26:

Cadeirydd - Cyng. Lisa Birks

Is-Gadeirydd - Cyng. Dewi Tudur Lewis

Cytunwyd o hyn ymlaen bydd Cadeirydd y Cyngor yn aros yn ei swydd am ddwy flynedd a nid un.

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £17,260.71 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £14,627.29 yn llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.. Rhannodd y Clerc gopïau o gynllun gyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2025/26 i bob Aelod ac aethpwyd drwy’r cynllun hwn. Cytunwyd i fabwysiadu y cynllun hwn am y flwyddyn i ddod. Cytunwyd i drafod cyflog y Clerc yng nghyfarfod mis Ionawr o’r Cyngor o hyn ymlaen a nid cyfarfod mis Mawrth.

Tir ger Bron Trefor

Cafwyd wybod gan y Cyng. John Richards ei fod heb drafod y mater uchod ymhellach gyda Mr. Harri Pugh a cytunwyd cysylltu gyda cwmni bysiau Lloyds yn gofyn a oes asesiad risc o’r safle lle maen’t yn stopio wedi ei gario allan yn mhentre Talsarnau ganddynt ag hefyd a ydynt yn gallu awgrymu safle arall.

Adroddiad Blynyddol y Cyngor

Adroddodd y Clerc ei bod wedi paratoi y drydydd adroddiad blynyddol ar ran y Cyngor ag ei bod wedi anfon hon ymlaen i bob Aelod o flaen y cyfarfod. Cytunwyd bod yr adroddiad hon yn iawn.

Polisi Yswirriant y Cyngor

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan yr Archwiliwr Mewnol bod angen i’r Cyngor adolygu eu polisi yswiriant i wneud yn siwr ei fod yn ddigonol. Fe aethpwyd drwy y polisi a cytunwyd gofyn i’r cwmni yswiriant i dynnu y peiriannau torri gwair a pheiriannau a’r offer chwaraeon o’r polisi oherwydd nid oedd gan y Cyngor yr offer hwn. Hefyd cytunwyd i ychwanegu y camerau CCTV i’r polisi. Cytunwyd i ychwanegu y camerau CCTV i’r polisi a nodi mae eu gwerth yw £7,000.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi derbyn cwynion am or-yrru drwy’r pentre unwaith eto a wedi cysylltu gyda’r Heddlu ynglyn a hyn. ‘Roedd wedi cael gwybod gan Swyddog o’r Parc Cenedlaethol eu bod yn dal i gadw llygaid ar y cabanau fyny yn y coed ger Soar a bydd yn dilyn hwn i fyny eto yr wythnos hon.

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi cael cwynion am or-yrru yn Llandecwyn ag ei fod wedi codi y mater mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn. Cafwyd wybod bod rhai wedi gofyn am 20 m.y.a drwy Llandecwyn ond penderfynwyd nid oedd hyn yn iawn.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £10,909.71 yn y cyfrif rhedegol, a £27,884.58 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

E. W. Owen a’i Chwmni - £228.00 – cwblhau P.A.Y.E ar lein

Un Llais Cymru - £147.00 - tal aelodaeth am y flwyddyn

Defib Store - £70.80 - pad newydd i defib Cilfor

Clear Insurance Ltd - £1,087.11 - Yswiriant y Cyngor am y flwyddyn

Mr. Meirion Griffiths - £460.00 - torri gwair mynwent Llanfihangel y Traethau x 2

Mr. Meirion Griffiths - £210.00 - torri gwair mynwent Llandecwyn

Ceisiadau am gymorth ariannol

Cwmni Seren – £500

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. John Richards a wnaeth y Cyng. Ffion Williams gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf

Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Ebrill)

Mr. Meirion Williams - £247.00 - claddu y diweddar Mrs Anna Wyn Williams (llwch)

Cyngor Gwynedd - £17,000.00 – hanner y precept

Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Mai)

Fe ranodd y Trysorydd gopïau o gyfrifion y Cyngor yn diweddu 31ain o Fawrth 2025 i bob Aelod. Fe aethpwyd drwy’r cyfrifon yn ofalus ag fe gymeradwyddwyd y cyfrifon yn unfrydol gan yr Aelodau. Cytunwyd gan pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael ei arwyddo gan y Cadeirydd a’r Clerc.

Fe adroddodd y Trysorydd bod yr Archwiliad Mewnol wedi cael ei gwblhau a bod dim materion arwyddocaol yn codi heblaw am am y materion isod -

Methiant i osod cyllideb cytbwys

Methiant i adolygu cynnwys y polisi yswiriant er mwyn sicrhau ei fod yn ddigonol a heb fod yn ormodol

Diffyg tryloywder yn deillio o fethiant i arddangos manylion penodol ar wefan y Cyngor yn unol a Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

Methiant i gynnwys holl asedau’r Cyngor yn y gofrestr asedau

Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi cwblhau'r Ffurflen Flynyddol hyd at y 31ain o Fawrth 2025, aeth yr Aelodau drwy'r ffurflen hon a chytunwyd i'w chymeradwyo a chytunwyd hefyd i'r Cadeirydd a'r Clerc/Trysorydd lofnodi hyn ar ran y Cyngor.

GOHEBIAETH

Ms Fiona Roberts

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor ei bod bellach wedi archebu mainc o ddeunydd ailgylch er mwyn ei gosod yn Llandecwyn ag yn gofyn a oedd y Cyngor yn gwybod am unrhyw un fyddai yn gwneud y gwaith hyn. Adroddodd y Clerc ei bod wedi gofyn i Mr. Meirion Griffiths a fyddai yn fodlon gwneud y gwaith a wedi anfon ei fanylion i Ms Roberts .

Eisteddfod Ardudwy

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn diolch am y rhodd ariannol a dderbyniwyd ganddynt yn ddiweddar.

Cyngor Gwynedd - Adran Amgylchedd

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd o Landecwyn draw am Faentwrog yn cael ei chau ar y 14eg o’r mis hwn am 18 mis neu nes y cwblheir y gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd.

Pwyllgor Neuadd Bentref

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn diolch am y rhodd ariannol a dderbyniwyd ganddynt yn ddiweddar.

Mr. Mark Leigo

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn i’r Cyngor a fyddai yn bosib bin ysbwriel yn y cae chwarae yn y pentre ag hefyd yn gofyn am bin baw cwn arall yn y pentre am bod yr un oedd yna wedi cael ei newid a wedi cael ei ail leoli ger y stesion. Cytunwyd gofyn am bin ysbwriel gan Gyngor Gwynedd i’w leoli yn y cae chwarae ag hefyd gofyn iddynt ei wagio ag hefyd cytunwyd gofyn am fin baw cwn a’i lleoli rhywle yn y pentre.

Cwmni Seren

Wedi derbyn e-bost gan y Cyng. Dewi Tudur Lewis ar rhan criw o fechgyn lleol sy’n gwneud taith gerdded yn y Cairngorms i godi arian at y cwmni uchod a maen’t yn bwriadu cyrraedd copa pedwar mynydd mewn 24 awr. Cytunwyd rhoid £500 iddynt.

Parc Cenedlaethol Eryri

Wedi derbyn e-bost gan Mrs Naomi Jones yn gofyn a fyddai’n bosib iddi ddod i gyfarfod o’r Cyngor er mwyn trafod diweddariad ynglyn a Plas Tanybwlch. Cytunwyd am bod y Cyngor ddim yn cyfarfod yn mis Mehefin i wahodd Mrs Naomi Jones i gyfarfod mis Gorffennaf o’r Cyngor.

Creative Play

Adroddodd y Cyng. Lisa Birks ei bod wedi derbyn pris gan y cwmni uchod ynglyn a creu llwybrau i mewn i’r parc chwarae. ‘Roedd dau opsiwn ar gael sef un am lwybrau gyda “wetpour” arno am bris o £5,605 ag opsiwn arall gyda “stobipave” arno am bris o £6,015. Cytunwyd bod y Cadeirydd yn cysylltu hefo cwmni Hochief ag hefyd hefo Mantell Gwynedd.

Sian Gwenllian AS

Wedi derbyn llythyr o ddiolch gan yr uchod am gefnogi ysgol deintyddol yn Bangor.

UNRHYW FATER ARALL

Eisiau gwybod y diweddaraf ynglyn ar llinellau melyn dwbwl ar rhiw Soar a datganodd y Cyng. Gwynfor Owen bod ef ar Cyng. Dewi Tudur Lewis yn ceisio trefu cyfarfod safle.#

Datganwyd pryder bod yna lanast o amgylch safle garej Capel y Graig. gloch ar yr 16eg o fis nesa.

Cafwyd wybod bod coeden angen sylw tu ol i Bron y Garth, Llandecwyn a cytunwyd gofyn i Rhydian Roberts, Swyddog Coedwigaeth y Parc Cenedlaethol gael golwg arni.

Datganwyd pryder bod ateb byth wedi cael ei dderbyn ynglyn ar e-bost a anfonwyd at yr Adran Priffyrdd ganol mis Ebrill ynglyn a ffordd Borth Las.

Eisiau arwyddion mwy clir yn dangos y llwybr arfordir o’r ffordd fawr i Borth Las ag ochor arall y rheilffordd at y clawdd llanw. r

Eisiau gwybod os oes gan yr Adran Priffyrdd gynlluniau i ail wynebu ffordd Llandecwyn/Maentwrog ar ol y gwaith gan gwmni Opus gael ei orffen.

Cytunwyd i gynnal cyfarfod mynwentydd eto eleni ag i gyfarfod yn mynwent Llanfihangel y Traethau am 7.00 o'r gloch ar yr 16eg o fis nesa

 

 

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg