Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Talsarnau - 18/05/26

Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Talsarnau - 18/05/26

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Lisa Birks (Cadeirydd), Dewi Tudur Lewis (Is-Gadeirydd), Owen Lloyd Roberts, Sian Mai Ephraim, Ffion Williams,.

PRESENNOL

Cyng. Eluned Williams, Eifion Williams, Margaret Roberts, Ann Jones a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

Yn absenoldeb y Cadeirydd ar Is-Gadeirydd (presennol), cymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd newydd, y Cyng. Eluned Williams.

DATGAN BUDDIANT

Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mawrth 16eg 2026 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Cytunwyd i edrych ar y gwaith oedd ei angen ar gatiau mynwent Llanfihangel y Traethau pan fydd cyfarfod y mynwentydd mis nesa.

MATERION YN CODI 

Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2026/27

Cadeirydd:- Cyng. Dewi Tudur Lewis

Is-Gadeirydd:- Cyng. Eluned Williams

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £27,002.81 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £11,997.19 yn llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn..

Rhannodd y Clerc gopïau o gynllun gyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2026/27 i bob Aelod ac aethpwyd drwy’r cynllun hwn. Cytunwyd i fabwysiadu y cynllun hwn am y flwyddyn i ddod.

Tir ger Bron Trefor

Adroddwyd ar ran y Cadeirydd ei bod wedi derbyn e-bost gan Dafydd Wheldon Hughes yn adran cludiant Cyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod ag yn datgan ei fod wedi bod allan yn asesu y safle ar unig safle sydd yn addas (ond ddim yn un gret ar hyn o bryd) yw yr un ger “Estuary Lodge”. Hefyd yn datgan os bydd perchnogion yr “Estuary Lodge” yn hapus I rhoid darn o dir I’r Cyngor Cymuned byddant wedyn yn gallu edrych ar symud y polyn safle bws a chael lloches bws wedi ei osod yn y lleoliad newydd. Bydd angen caniatad cynllunio wedi ei sortio. Oherwydd absenoldeb y Cyng. Lisa Birks I rhoid y mater hwn ar agenda mis Gorffennaf.

Hysbysfwrdd Cilfor

Adroddwyd ar ran y Cadeirydd bod yr uchod wedi cael ei osod diolch I gwmni Hochtief ag ‘roedd wedi anfon e-bost I’r Aelodau yn dangos yr hysbysfwrdd newydd yn ei le ag hefyd y ddwy fainc wedi cael eu hadnewyddu a’I gosod yn eu lleoliadau newydd gan y cwmni

Adroddiad Blynyddol y Cyngor

Adroddodd y Clerc ei bod wedi llunio pedwerydd adroddiad blynyddol ar ran y Cyngor ag ‘roedd wedi anfon copi i bob Aelod yn barod er mwyn iddynt gael rhoi sylwadau arni os bydd angen. Cytunwyd bod hon yn iawn.

Ethol Cynghorydd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod bod ddim enw wedi ei dderbyn gan yr Adran Etholiadol, Cyngor Gwynedd ynglyn a llenwi y sedd wag oedd yn bodoli ar y Cyngor ag felly oedd gan y Cyngor nawr yr hawl I gyfethol aelod I’r Cyngor. Oherwydd bod nifer o’r Aelodau yn absenol, cytunwyd I drafod y mater hwn ymhellach yn y cyfarfod nesa..

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – cafwyd wybod ganddi ei bod wedi derbyn cwyn bod ci yn cael ei adael I mewn I’r cae chwarae I faeddu ag ei fod wedi gofyn I’r salw a oedd wedi cwyno I anfon tystiolaeth iddi fel y gall fynd ar mater ymlaen I’r Swyddog priodol. ‘Roedd wedi hysbysu Cyngor Gwynedd bod cerbyd gyda arwydd “ar werth” arno wedi parcio yn y cilfan cyfagos ag wedi derbyn ateb yn datgan bod hyn ddim yn erbyn rheolau ag ni allant gymryd unrhyw achos cyfreithiol yn ei erbyn, mae y cerbyd wedi mynd o’r lleoliad erbyn hyn.

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen nid oedd ganddo lawer I’w adrodd ddim ond ei fod yn falch iawn o ganlyniad Etholiad diweddar y Senedd ag yn edrych ymlaen I gyd-weithio gyda’r Aelodau.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Codi garej ddwbl ar wahân yn cynnwys lle gyfleustodau Llidiart-Garw, Eisingrug, Talsarnau (NP5/77/36D)

Cefnogi y cais hwn

Cais ôl-weithredol i gadw trac mynediad caled estynedig ar gyfer 2 gwt bugail, ynghyd â chadw tri pholar golau goleuedig a phwynt cysylltu trydan Bryn Derw, Cilfor, Talsarnau (NP5/77/259G)

Cefnogi y cais hwn

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £33,435.76 yn y cyfrif rhedegol, a £28,196.05 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

Mr. Meirion Griffith - £470.00 - torri gwair mynwent Llanfihangel y Traethau x 2

E. W. Owen a’i Chwmni - £240.00 – cwblhau P.A.Y.E ar lein

Un Llais Cymru - £160.00 - tal aelodaeth am y flwyddyn

Clear Insurance Ltd - £1,135.48 - Yswiriant y Cyngor am y flwyddyn

Greenbarnes - £1,119.03 - hysbysfwrdd Cilfor

Mr. M. J. Kerr £100.00 - agor bedd y diweddar Jonet a Gerry yn Llandecwyn (llwch)

Fe gafwyd drafodaeth ynglyn ar polisi yswiriant y Cyngor a cytunwyd bod y polisi yn iawn am eleni a cytunwyd i dalu yr anfoneb.

. Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Margaret Roberts a wnaeth y Cyng. Eluned Williams gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Ebrill)

Cyngor Gwynedd - £17,000.00 - hanner y precept

Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Mai)

Mr. R. Blanchete - £665.00 - claddu llwch Jonet Slater a Gerry McKenna yn mynwent Llandecwyn

‘Roedd y Trysorydd wedi anfon copïau o gyfrifion y Cyngor yn diweddu 31ain o Fawrth 2026 i bob Aelod. Fe aethpwyd drwy’r cyfrifon yn ofalus ag fe gymeradwyddwyd y cyfrifon yn unfrydol gan yr Aelodau. Cytunwyd gan pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael ei arwyddo gan y Clerc ar Is- Gadeirydd yn absenoldeb y Cadeirydd.

GOHEBIAETH

Parc Cenedlaethol Eryri 

Hefyd yn gofyn os oes gan rhywun unrhyw dystiolaeth neu yn derbyn unrhyw dystiolaeth gan y gymuned o unrhyw waith neu ddefnyddiau sy'n digwydd yno sydd y tu hwnt i weithgareddau coedwigaeth iddynt anfon hyn ymlaen atynt. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon yr -bost hwn ymlaen at y Cyng. Dewi Tudur Lewis ag ei fod yn mynd I gysylltu gyda’r Swyddog yn uniongyrchol.

Also asking if anyone has any evidence or has received any evidence from the community of any work or materials happening there that is beyond forestry activities to send this on to them. The Clerk further reported that he had forwarded this email to Cllr. Dewi Tudur Lewis and that he is going to contact the Officer directly.

UNRHYW FATER ARALL

Datganwyd siom bod rhai oedd yn byw yn ardal Llandecwyn ddim wedi cael gwybod bod y ffordd yn cael ei chau oherwydd y ffilmio oedd yn mynd ymlaen yn ddiweddar.

Eisiau anfon at yr Adran Priffyrdd i dynnu eu sylw at y polyn sydd yn gwyro i’r ffordd ger mynedfa Draenogau.

Eisiau cysylltu gyda’r Parc Cenedlaethol i dynnu eu sylw at y datblygiad sydd yn mynd ymlaen ger Stabl Mail.

Cafwyd wybod bod angen torri coed ger Soar.

Datganwyd pryder am y diffyg parcio sydd ar ystad dai Cilfor a datganwyd bod y mater hwn wedi cael ei drafod o’r blaen yn y Cyngor a bod yr Aelodau wedi dod i benderfyniad bod y mater hwn ddim i’w wneud ar Cyngor Cymuned.

Cytunwyd i gynnal cyfarfod mynwentydd eto eleni ag i gyfarfod yn mynwent Llanfihangel y Traethau am 7.00 o'r gloch ar yr 15ed o fis nesa

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg