Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Talsarnau - 13/07/26

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Talsarnau - 13/07/26

YMDDIHEURIADAU
Cyng. Ann Jones

PRESENNOL
Cyng. Dewi Tudur Lewis (Cadeirydd), Eluned Williams (Is-Gadeirydd), Eifion Williams, Margaret Roberts, Owen Lloyd Roberts, Sian Mai Ephraim, Ffion Williams,. Lisa Birks, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

Oherwydd bod y Cadeirydd yn absenol yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor, diolchodd i’r cyn Gadeirydd, y Cyng. Lisa Birks am ei holl waith i’r Cyngor yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Hefyd estynodd longyfarchiadau i’r Cyng. Eluned Williams ar gael ei ethol yn Is-Gadeirydd y Cyngor a datganodd ei fod yn edrych ymlaen i gyd weithio gyda hi.

DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.

COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mai 18ed 2026 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI O’R COFNODION
Datganodd y Cyng. Eifion Williams ei fod eisiau codi y pwynt ynglyn ar trafodaethau blaenorol oedd wedi cael ei gwneud ynglyn a datblygu maes parcio yn Cilfor.

MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £3,225.51 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £4,683.49 yn llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn..

Tir ger Bron Trefor
Cafwyd wybod gan y Cyng. Lisa Birks bod perchnogion y safle newydd yn barod I drafod gosod lloches bws a cytunodd y Cyng. Gwynfor Owen gysylltu a hwy. Cytunwyd I gynnal ymgynghoriad lleol ynglyn a hyn.

Ethol Cynghorydd
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod bod ddim enw wedi ei dderbyn gan yr Adran Etholiadol, Cyngor Gwynedd ynglyn a llenwi y sedd wag oedd yn bodoli ar y Cyngor ag felly oedd gan y Cyngor nawr yr hawl I gyfethol aelod I’r Cyngor. Oherwydd bod nifer o’r Aelodau yn absenol, cytunwyd I drafod y mater hwn ymhellach yn y cyfarfod hwn. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Betsan Emlyn am ei bod wedi dangos diddordeb o fod yn Aelod o’r Cyngor. Oedd yr Aelodau I gyd yn cytuno I’w chyfethol fel Aelod o’r Cyngor.

MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – adroddodd ei bod wedi cael gwybod bod y polyn newydd wedi cael ei osod ger Draenogau, ‘roedd wedi derbyn amryw o gwynion a phryderon ynglyn ar datblygiad arfaethedig o’r tir sydd ger y parc chwarae yn safle gwersylla ag ‘roedd wedi cysylltu gyda’r Parc Cenedlethol ynglyn a hyn a bydd yn cynnal trafodaethau pellach hefo nhw yn fuan.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi mynychu cyfarfod yn Gaerdydd gyda TFW a bod newidiadau
yn mynd I fod yn y gwasanaeth bysiau, wedi mynychu y diwrnod hwyluso tai yn y neuadd,
wedi cael sawl cwyn ynglyn ar datblygiad gwersylla arfaethedig. Cytunwyd bod
y Cyngor yn gwrthwynebu y datblygiad hwn a bod y Clerc yn anfon at y cwmni yn
datgan hyn ag anfon copi I’r Parc Cenedlaethol, Adran Priffyrdd, Mabon Ap Gwynfor a Liz Saville Roberts.
Liz Saville Roberts

CEISIADAU CYNLLUNIO Diwygiadau i gynlluniau cymeradwy sydd ynghlwm i Ganiatâd Cynllunio NP5/77/336B dyddiedig 24/09/2021 yn cynnwys newidiadau i gyfeiriad llethr rhan ganolog to adeilad Twnnel Hoed House (THH), mân newidiadau i offer o fewn y THH/Cyfansoddyn Pen Selio (SEC). Graddiant y ffordd fynediad wedi'i addasu i lethr mwy graddol ar hyd y darn i osgoi codiad serth i ardal y cyfansoddyn. Cynnwys generadur brys a thanc storio tanwydd a newidiadau cysylltiedig i'r draeniad Tir yn Cilfor, Llandecwyn (NP5/77/336L) Cefnogi y cais hwn.

Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer newidiadau mewnol i ganiatâd a gymeradwywyd yn flaenorol (NP5/77/LB65D dyddiedig 12/08/2025) i gynnwys gostwng y balwstrad ychwanegol i lefel yr oriel, ychwanegu grisiau syth newydd, ac adleoli cyfleusterau ystafell ymolchi ac ystafell gawod i ochr gardd y capel Capel Soar, Talsarnau (NP5/77/LB65F) Cefnogi y cais hwn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £31,480.56 yn y cyfrif rhedegol, a £28,287.85 yn y
cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis
Cyllid a Thollad £123.60 - treth ar gyflog y Clerc
Archwilio Cymru - £200.00 – archwiliad allanol 2024/25
Mr. Meirion Griffith - £470.00 - torri gwair mynwent Llanfihangel y Traethau x 2
Mr. Meirion Griffiths - £210.00 - torri gwair mynwent Llandecwyn
Mr. Meirion Griffith - £495.00 - torri gwair y llwybrau cyhoeddus yn yr ardal.
Cyng. Lisa Birks - £156.00 - lwfans Cynghorydd

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Lisa Birks a wnaeth y Cyng. Ffion Williams gymeradwyo’r .
taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar
ddiwedd y cyfarfod

Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Mehefin)
Cyllid a Thollad - £296.31 – ad-daliad TAW
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Gorffennaf)

Fe adroddodd y Trysorydd bod yr Archwiliad Mewnol wedi cael ei gwblhau a bod dim materion arwyddocaol yn codi heblaw am am y materion isod - Argymhellir bod y Cyngor yn ymrwymo i roi sylw i’r risgiau canlynol a chymryd camau priodol i’w lliniaru: • Risg o golledion ariannol neu taliadau anawdurdodedig heb rheolaethau awdurdodiad deuol wedi’i sefydlu ar gyfer rhyddhau taliadau drwy bancio ar lein. • Methiant i gydymffurfio ag adran 81 deddf Llywodraeth Leol 2000 i gyhoeddi rhestr o buddiannau aelodau ar wefan y Cyngor. • Methiant i gyflwyno yn gywir dadansoddiad o wahaniaethau dros 15% yn ffigyrau 2024-25 i gymharu â 2025-26 a ddarparu eglurhad o wahaniaethau. • Risg o wneud penderfyniadau anhysbys trwy beidio â chynnwys/ystyried yr incwm a’r arian wrth gefn wrth osod y cyllideb. • Risg o dirwyon gan CThEM ar gostau staff a daliwyd heb adolygiad o’r costau a’u datgan ar gyfer oblygiadau treth.

Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi cwblhau'r Ffurflen Flynyddol hyd at y 31ain o Fawrth 2026, aeth yr Aelodau drwy'r ffurflen hon a chytunwyd i'w chymeradwyo a chytunwyd hefyd i'r Cadeirydd a'r Clerc/Trysorydd lofnodi hyn ar ran y Cyngor.

GOHEBIAETH Parc Cenedlaethol Eryri Wedi derbyn cais am Adborth: Proffiliau Aneddiadau Drafft gan tim Polisi Cynllunio yr uchod ag yn gofyn am gymorth y Cyngor i adolygu proffiliau anheddiadau sydd wedi’u paratoi ar gyfer anheddiadau o fewn ein Cyngor Cymuned. Hefyd yn datgan bod y proffiliau anheddiadau’n dod â gwybodaeth allweddol at ei gilydd am bob anheddiad. Maent yn un o’r camau cyntaf o gasglu tystiolaeth a fydd yn helpu i lywio asesiadau anheddiadau yn y dyfodol a’r strategaeth ofodol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol. Yn datgan byddai y Cyngor Cymuned yn gweld y proffiliau anheddiadau sy’n berthnasol I’r ardal hon a mae rhain ar ffurf drafft cyntaf, a byddant yn ddiolchgar iawn os fyddai y Cyngor Cymuned yn gallu cyfrannu atynt er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a lleisiau rhanddeiliaid lleol yn cael eu cynnwys. Yr hyn mae y tim Polisi Cynllunio yn gofyn I’r Cyngor Cymuned ei wneud yw y canlynol:- Ar gyfer pob anheddiad sydd wedi’i gynnwys, gofynnwn i chi gwblhau’r tri cham canlynol: 1 Adolygu’r proffil anheddiad Gwiriwch y proffil a nodwch unrhyw wybodaeth sy’n anghyflawn, yn anghywir, neu y gellid ei gwella. Gellir cofnodi’r sylwadau hyn ar dudalen gyntaf yr holiadur. 2. Cwblhau’r holiadur Cwblhewch un holiadur ar gyfer pob anheddiad. Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn eich barn ar gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau (SWOT) yr anheddiad. Gellir hefyd ddefnyddio’r holiadur i gyflwyno cywiriadau neu wybodaeth ychwanegol. 3. Cwblhau’r ffurflen gwasanaethau a chy Rhestrwch yr holl wasanaethau a chyfleusterau lleol y dylid eu cynnwys yn y proffil anheddiad. Cofnodwch gymaint o fanylion â phosibl. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen I bob Aelod yn barod. Cytunodd y Cadeirydd I gwblhau yr holiadur hwn ar ran y Cyngor.

Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynglyn a Gwasanaeth Cydymffurfiaeth Cynllunio – Gwybodaeth i
Gynghorau Cymuned a Thref ag yn rhoid i trosolwg byr o Wasanaeth Cydymffurfiaeth yr Awdurdod ac i egluro sut mae materion cydymffurfiaeth yn cael eu trin.
to clarify how compliance matters are handled.

Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn a fyddai y Cyngor yn fodlon ysgrifennu llythyr o
gefnogaeth ar gyfer datblygiad Plas Tan y Bwlch, ym mis Awst eleni, bydd yr Awdurdod yn cyflwyno
ym mis Awst eleni, bydd yr Awdurdod yn cyflwyno cais cyfnod datblygu i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer datblgyiad y Plas.
Cytunwyd anfon llythyr o gefnogaeth iddynt.

UNRHYW FATER ARALL
Falch o weld bod y gweithgareddau roller skatio yn llwyddiant yn Harlech.
Datganwyd pryder unwaith yn rhagor bod y ceir yn dal i barcio ar y ffordd i fyny am Soar
ag hefyd bod cyflwr y ffordd angen sylw.
Datganwyd bod y darn tir ger Rhiw Derwydd angen sylw.
Eisiau gofyn i Mr. Meirion Griffith i dorri o amgylch y ddwy sedd gyhoeddus newydd sydd
wedi cael eu gosod yn Llandecwyn.
Eisiau edrych allan am grant i archebu arwydd fflachio i’w osod tu allan i’r ysgol gynradd oherwydd bod
pryderon weid dod o’r ysgol ynglyn a gor-yrru.
Cafwyd wybod bod Mrs Siriol Lewis wedi mynd o amgylch y difribilwyr yn yr ardal am y tro olaf
a bod angen i’r Cyngor Cymuned gymeryd cyfrifoldeb ohonynt. Cafwyd wybod bod Eirian
Evans yn fodlon edrych ar ol yr un yn Soar, Arwyn Williams yn fodlon edrych ar ol yr un yn Ynys,
Lisa Birks yn fodlon edrych ar ol yr un yn Cilfor ag Eluned Williams yn fodlon edrych ar ol yr un
yn y pentref

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg